Lefiticus 19
19
Ail‐adrodd amryw gyfreithiau.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, #Pen 11:44; 20:7, 26; 1 Pedr 1:16Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3 #
Exod 20:12
Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a #Exod 20:8; 31:13chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi. 4#Exod 20:4Na throwch at eilunod, ac #Exod 34:17; Deut 27:15na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5A #Pen 7:16phan aberthoch hedd‐aberth i’r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny. 6Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd. 7Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy. 8A’r hwn a’i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.
9A #Pen 23:22; Deut 24:19; Ruth 2:15, 16phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf. 10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11 #
Exod 20:15; 22:1, 7, 10;
Pen 6:2
Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12Ac #Exod 20:7; Pen 6:3; Deut 5:11; Mat 5:34; Iago 5:12na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: #Deut 24:14, 15; Mal 3:5; Iago 5:4na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14Na felltiga’r byddar, ac #Deut 27:18na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15Na wnewch gam mewn barn; #Exod 23:3; Deut 1:17; 16:19; 27:19; Diar 24:23; Iago 2:9na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16Ac #Exod 23:1; Salm 15:3; 50:20; Diar 11:13; 20:19na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17 #
1 Ioan 2:11; 3:15 Na chasâ dy frawd yn dy galon: #Mat 18:15; Luc 17:3; Gal 6:1; Eff 5:11; 1 Tim 5:20gan geryddu cerydda dy gymydog, #19:17 Neu, rhag i ti ddwyn pechod drosto. Edrych Rhuf 1:32; 1 Cor 5:2; Eff 5:11; 1 Tim 5:22; 2 Ioan 10, 11ac na ddioddef bechod ynddo.
18Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond #Mat 5:43; 22:39; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
19Cedwch fy neddfau: na ad i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, #Deut 22:9, 10, 11ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.
20A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei #19:20 Neu, amherchi gan neb. Heb. enllibio gan, neu, am ŵr.dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded #19:20 Neu, iddi. iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. 21A #Pen 5:15dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. 22A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.
23A phan ddeloch i’r tir, a phlannu ohonoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi: na fwytaer ohono. 24A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn #19:24 sancteiddrwydd moliant i’r &csanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef. 25A’r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
26 #
Pen 17:10 &c Na fwytewch ddim ynghyd â’i waed: #Deut 18:10; 1 Sam 15:23nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. 27#Pen 21:5Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. 28Ac #Deut 14:1; Jer 16:6na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.
29Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio’r tir, a llenwi’r wlad o ysgelerder.
30 #
Pen 26:2
Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr Arglwydd ydwyf fi.
31 #
Pen 20:6, 27; Deut 18:10; Esa 8:19; Act 16:16Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
32Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33A #Exod 22:21; 23:9phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na #19:33 orthrymwch.flinwch ef. 34#Exod 23:9Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a #Deut 10:19châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. 36Bydded i chwi #Deut 25:13; Diar 11:1; 16:11; 20:10gloriannau cyfiawn, #19:36 bwysau.gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft. 37Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.
اکنون انتخاب شده:
Lefiticus 19: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society