Genesis 46

46
1 Duw yn cysuro Jacob yn Beer‐seba. 5 Efe a’i deulu yn myned oddi yno i’r Aifft. 8 Rhifedi ei deulu ef y rhai a aeth i’r Aifft. 28 Joseff yn cyfarfod Jacob. 31 Mae efe yn dysgu i’w frodyr pa fodd yr atebent Pharo.
1Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beer‐seba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac. 2A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 3Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr. 4Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: #Pen 50:1Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di. 5A chyfododd #Act 7:15Jacob o Beer‐seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef. 6Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, #Jos 24:4; Salm 105:23; Esa 52:4Jacob, a’i holl had gydag ef: 7Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.
8A #Exod 1:1; 6:14dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Jacob a’i feibion: #Num 26:5; 1 Cron 5:1Reuben, cynfab Jacob. 9A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
10A #Exod 6:15meibion Simeon; #46:10 Nemuel.Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a #46:10 Jarib.Jachin, a #46:10 Sera. 1 Cron 4:24Sohar, a Saul mab Canaanëes.
11Meibion #1 Cron 6:1, 16Lefi hefyd; #46:11 Neu, Gersom.Gerson, Cohath, a Merari.
12A meibion #1 Cron 2:3; 4:21Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw #Pen 38:3, 7, 10, 29, 30Er ac Onan yn nhir Canaan. A #1 Cron 2:5meibion Phares oedd Hesron a Hamul.
13 # 1 Cron 7:1 Meibion Issachar hefyd; Tola, a #46:13 Neu, Pua, a Jasub.Phufa, a Job, a Simron.
14A meibion Sabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel. 15Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym #46:15 Padan‐Aram.Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.
16A meibion Gad; #Num 26:15, &c SephonSiffion, a Haggi, Suni, ac #46:16 Osni.Esbon, Eri, ac #46:16 Arod.Arodi, ac Areli.
17 # 1 Cron 7:30 A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia; Heber a Malchiel. 18#Pen 30:10Dyma feibion Silpa, #Pen 29:24yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.
19Meibion Rahel, #Pen 44:27gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin. 20Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, #Pen 41:50y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera #46:20 tywysog.offeiriad On, iddo ef.
21 # 1 Cron 7:6; 8:1 A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, #Num 26:38, 39, AhiramEhi, a Ros, #Num 26:39, SeffuffamMuppim, a #46:21 Huffam.Huppim, ac Ard. 22Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.
23 # 1 Cron 7:12; Num 26:42 A meibion Dan oedd #46:23 Suam.Husim.
24 # 1 Cron 7:13 A meibion Nafftali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Silem. 25#Pen 30:5Dyma feibion Bilha, #Pen 29:29yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith dyn oll. 26#Exod 1:5Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft, yn dyfod allan o’i #46:26 Heb. forddwyd.lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain. 27A meibion Joseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: #Deut 10:22; Edrych Act 7:14holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.
28Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen. 29A Joseff a baratôdd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd. 30A dywedodd Israel wrth Joseff, #Felly Luc 2:29Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto. 31A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi. 32A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt. 33A phan alwo Pharo amdanoch, a #Pen 47:2, 3dywedyd, Beth yw eich gwaith? 34Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys #Exod 8:26ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.

اکنون انتخاب شده:

Genesis 46: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید