Genesis 40
40
1 Bwtler a phobydd Pharo yng ngharchar, 4 dan siars Joseff. 5 Efe yn dehongli eu breuddwydion hwy; 20 a’r rhai hynny yn dyfod i ben yn ôl ei ddehongliad ef. 25 Anniolchgarwch y bwtler.
1A Darfu wedi’r pethau hynny, i #40:1 bwtler.drulliad brenin yr Aifft, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft. 2A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a’r pen‐pobydd: 3Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym. 4A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.
5A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy. 6A’r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist. 7Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich #40:7 golygon mor athrist.wynebau yn ddrwg heddiw? 8A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, #Edrych Pen 41:16; Dan 2:11, 28Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi. 9A’r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen; 10Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed. 11Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo. 12A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc. 13O fewn tri diwrnod eto Pharo #2 Bren 25:27a #40:13 Neu, gyfrif.ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo. 14Eto #40:14 meddylia arnaf fi.cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r tŷ hwn: 15Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar. 16Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell #40:16 Neu, gwynion.rhwyd‐dyllog ar fy mhen. 17Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen. 18A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell. 19O fewn tri diwrnod eto y #40:19 cyfrif.cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.
20Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe #Marc 6:21a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a #40:20 Neu, gyfrifodd.ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a’r pen‐pobydd ymysg ei weision. 21Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo. 22A’r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy. 23Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.
اکنون انتخاب شده:
Genesis 40: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society