Deuteronomium 22
22
1 Am garedigrwydd brawdol. 5 Bod adnabod y gwryw a’r fenyw wrth eu dillad. 6 Na ddalier mam yr adar gyda’i chywion. 8 Rhaid yw bod i dŷ ganllawiau. 9 Gochelyd cymysgedd. 12 Rhaid yw bod taseli wrth ddillad. 13 Cosbedigaeth yr hwn a roddo anair i’w wraig. 20, 22 Am dor‐priodas, 25 trais, 28 godineb, 30 a llosgach.
1 #
Exod 23:4
Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd. 2Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef. 3Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.
4 #
Exod 23:5
Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.
5Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig: oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn.
6Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda’r cywion. 7Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.
8Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
9 #
Lef 19:19
Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi #22:9 Heb. cyflawnder.cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.
10 # Edrych 2 Cor 6:14, 15, 16 Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.
11 #
Lef 19:19
Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.
12 #
Num 15:38; Mat 23:5 Plethau a weithi i ti ar #22:12 Heb. bedair adain.bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.
13O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu; 14A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod: 15Yna cymered tad y llances a’i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth. 16A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig, a’i chasáu y mae efe. 17Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas. 18A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef. 19A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau. 20Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances: 21Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: #Pen 13:5a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.
22 #
Lef 20:10
O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.
23O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi; 24Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: #Pen 22:21, 22felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.
25Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig. 26Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn: 27Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.
28 #
Exod 22:16
O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt: 29Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.
30 #
Lef 18:8; 20:11; 1 Cor 5:1 Na chymered neb wraig ei dad, ac na #Edrych Ruth 3:9; Esec 16:8ddinoethed odre ei dad.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 22: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society