Deuteronomium 18
18
1 Yr Arglwydd yw etifeddiaeth yr offeiriaid a’r Lefiaid. 3 Defod yr offeiriaid. 8 Rhan y Lefiaid. 9 Rhaid yw gochelyd ffieidd‐dra y cenhedloedd. 15 Rhaid yw gwrando ar Grist y Proffwyd. 20 Rhoddi y proffwyd rhyfygus i farwolaeth.
1 #
Num 18:20;
Pen 10:9
Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, #1 Cor 9:13a fwytânt hwy. 2Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; #Lef 7:30–34rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten. 4#Num 18:12, 24Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. 5Canys #Exod 28:1; Num 3:10dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.
6A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd; 7Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd. 8Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny. 10Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, #Lef 18:21fyned trwy y tân; #Lef 19:26, 31; 20:27; Esa 8:19 neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, 11#Lef 20:27Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac #1 Sam 28:7a ymofynno â’r meirw: 12Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. 13Bydd #18:13 Neu, uniawn, neu, bur.berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw. 14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a #18:14 Neu, etifeddi.feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 #
Ioan 1:45; Act 3:22; 7:37 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch; 16Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, #Pen 9:10yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, #Exod 20:19; Heb 12:19Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. 17A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, #Pen 5:28Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant. 18#Ioan 1:45; Act 3:22; 7:37Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a #Esa 51:16rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac #Ioan 4:25efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo. 19A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo. 20#Pen 13:5; Jer 14:14; Sech 13:3Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth. 21Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd? 22#Jer 28:9Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, #Edrych Pen 13:2a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 18: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society