Actau’r Apostolion 10

10
A.D. 41. —
1 Cornelius, gŵr defosiynol, 5 wrth orchymyn angel, yn danfon i gyrchu Pedr: 11 yntau, trwy weledigaeth, 15, 20 yn cael ei ddysgu na ddiystyrai mo’r Cenhedloedd. 34 Ac efe yn pregethu Crist i Cornelius, a’r rhai oedd gydag ef, 44 yr Ysbryd Glân yn disgyn arnynt; 48 a’u bedyddio hwy.
1Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd; 2Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo ar Dduw yn wastadol. 3Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. 4Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw. 5Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: 6Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. 7A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef: 8Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa.
9A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, #Pen 11:5, & cPedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr. 10Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg: 11Ac #Pen 7:56; Dat 19:11 efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear: 12Yn yr hon yr oedd pob rhyw bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 13A daeth llef ato, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 14A Phedr a ddywedodd, Nid felly, Arglwydd: canys #Lef 11:4; Deut 14:7; Esec 4:14ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan. 15A’r llef drachefn a ddywedodd wrtho yr ail waith, #Mat 15:11; Rhuf 14:14, 17, 20; 1 Tim 4:4; Titus 1:15Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 16A hyn a wnaed dair gwaith: a’r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i’r nef. 17Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo’i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth. 18Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.
19Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di. 20Am hynny #Pen 15:7cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a’u hanfonais hwynt. 21A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw’r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o’i herwydd? 22Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i’w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt. 23Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef. 24A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd. 25Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a’i haddolodd ef. 26Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, #Pen 14:14; Dat 19:10; 22:9Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. 27A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd. 28Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch #Ioan 4:9; 18:28; Pen 11:3mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr #Pen 15:8; Eff 3:6Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan. 29O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf. 30A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron #Mat 28:3; Marc 16:5; Luc 24:4mewn gwisg ddisglair, 31Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw. 32Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt. 33Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.
34Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, #Deut 10:17; Job 34:19; Rhuf 2:11; Gal 2:6; Eff 6:9; Col 3:25; 1 Pedr 1:17Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, #Esa 57:19; Eff 2:14, 16, 17; Col 1:20gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (#Rhuf 10:12efe yw Arglwydd pawb oll:) 37Chwychwi a wyddoch y #10:37 Neu, peth.gair a fu yn holl Jwdea, #Luc 4:14gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40#Pen 2:24Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42Ac #Mat 28:19; Pen 1:8efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai #Ioan 5:22, 27; Pen 17:31efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw #Rhuf 14:9, 10; 2 Tim 4:1; 1 Pedr 4:5yn Farnwr byw a meirw. 43#Jer 31:34; Micha 7:18; Pen 26:22I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd #Pen 4:31; 8:15, 16yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân #Pen 15:8fel ninnau? 48#1 Cor 1:17Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt #Pen 8:16yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.

اکنون انتخاب شده:

Actau’r Apostolion 10: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید