1 Corinthiaid 13

13
A.D. 59. —
1 Nad yw y doniau godidocaf ddim heb gariad. 4 Canmoliaeth cariad perffaith, 13 a’i ardderchowgrwydd rhagor gobaith a ffydd.
1Pe llefarwn â thafodau dynion ac angylion, ac heb fod gennyf gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tincian. 2A phe byddai gennyf #Pen 12:8, 9, 10; Edrych Mat 7:22broffwydoliaeth, a gwybod ohonof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennyf yr holl ffydd, #Mat 17:20; Luc 17:6fel y gallwn symudo mynyddoedd, ac heb gennyf gariad, nid wyf fi ddim. 3A #Mat 6:1, 2phe porthwn y tlodion â’m holl dda, a phe rhoddwn fy nghorff i’m llosgi, ac heb gariad gennyf, nid yw ddim llesâd i mi. 4#Diar 10:12; 1 Pedr 4:8Y mae cariad yn hirymaros, yn gymwynasgar; cariad nid yw yn cenfigennu; nid yw cariad yn #13:4 anwadalu.ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo, 5Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd, #Pen 10:24; Phil 2:4nid yw yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg; 6#Salm 10:3; Rhuf 1:32Nid yw lawen am anghyfiawnder, ond #2 Ioan 4cydlawenhau y mae #13:6 yn y.â’r gwirionedd; 7Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim. 8Cariad byth ni chwymp ymaith: eithr pa un bynnag ai proffwydoliaethau, hwy a ballant; ai tafodau, hwy a beidiant; ai gwybodaeth, hi a ddiflanna. 9Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn proffwydo. 10Eithr pan ddelo’r hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir. 11Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen #13:11 Neu, yr ymresymwn.y meddyliwn: ond pan euthum yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd. 12Canys #2 Cor 3:18; 5:7; Phil 3:12gweled yr ydym yr awr hon trwy ddrych, mewn dameg; ond yna, #Mat 18:10; 1 Ioan 3:2wyneb yn wyneb: yn awr yr adwaen o ran; ond yna yr adnabyddaf megis y’m hadwaenir. #13:12 yn dywyll 13Yr awr hon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn; a’r mwyaf o’r rhai hyn yw cariad.

اکنون انتخاب شده:

1 Corinthiaid 13: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید