Sechareia 2
2
Gweledigaeth 3 – Llinyn Mesur
1Edrychais eto, a gweld dyn gyda llinyn mesur yn ei law. 2Gofynnais iddo, “Ble ti’n mynd?” A dyma fe’n ateb, “I fapio Jerwsalem, a mesur ei hyd a’i lled.”
3Yna dyma’r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn cerdded i ffwrdd, a daeth angel arall i’w gyfarfod. 4Dwedodd hwnnw wrtho, “Brysia! Dos i ddweud wrth y dyn ifanc yna y bydd dim waliau i Jerwsalem. Bydd cymaint o bobl ac anifeiliaid yn byw ynddi! 5Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Bydda i fy hun fel wal o dân o’i chwmpas, a bydd fy ysblander yn disgleirio o’i mewn hi.’”
Galw pobl yn ôl adre o’r gaethglud
6“Hei, dewch! Gallwch ddianc o dir y gogledd!” meddai’r ARGLWYDD. “Rôn i wedi’ch chwalu chi i bob cyfeiriad, i’r pedwar gwynt. 7Ond gallwch ddianc o Babilon a dod adre, bobl Seion!” 8Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Ar ôl i’w ysblander ddod, bydd yn fy anfon i at y gwledydd wnaeth ymosod arnoch chi, i ddweud fod unrhyw un sy’n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!#Deuteronomium 32:10 9“Dw i’n mynd i’w cosbi nhw mor galed, bydd eu caethion yn cymryd popeth oddi arnyn nhw!” meddai. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i.
10“Canwch a dathlwch, bobl Seion! Dw i’n dod i fyw yn eich canol chi,” meddai’r ARGLWYDD. 11“Bydd llawer o wledydd yn uniaethu â’r ARGLWYDD bryd hynny, a byddan nhw hefyd yn bobl i mi.#Eseia 2:2-4; Micha 4:1-3 Yn wir, bydda i’n byw yn eich canol chi i gyd.” Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 12Bydd yr ARGLWYDD yn cymryd Jwda fel ei ran arbennig e o’r wlad gysegredig, a bydd yn dewis Jerwsalem iddo’i hun unwaith eto. 13Ust! Pawb drwy’r byd, byddwch dawel o flaen yr ARGLWYDD! Mae e ar fin gweithredu eto o’r lle sanctaidd ble mae’n byw.
اکنون انتخاب شده:
Sechareia 2: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023