Sechareia 13
13
1“Bryd hynny bydd ffynnon wedi’i hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i’w glanhau o bechod ac aflendid.”
Cael gwared ag eilun-dduwiau a phroffwydi ffals
2“Bryd hynny hefyd,” – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – “dw i’n mynd i gael gwared â’r eilunod o’r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed.#Hosea 2:17 A bydda i hefyd yn cael gwared â’r proffwydi ffals a’r ysbrydion aflan o’r tir. 3Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a’i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti’n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’#Deuteronomium 18:20 A bydd ei dad a’i fam yn ei drywanu i farwolaeth.#Deuteronomium 13:6-10
4“Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o’i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio’r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. 5Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i’n ifanc.’ 6Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy’r creithiau#13:6 creithiau Roedd pobl yn torri eu hunain gyda cyllyll, fel rhan o’r ddefod, wrth addoli’r duwiau ffals (gw. 1 Brenhinoedd 18:28). yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”
Y Bugail a’r defaid
7Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:
“Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail,
y dyn sy’n agos ata i.
Taro’r bugail,
a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.
Bydda i’n taro’r rhai bach hefyd.
8Dyna fydd yn digwydd drwy’r wlad i gyd,”
–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
“Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd,
gan adael un rhan o dair ar ôl.
9A bydda i’n arwain y rheiny drwy dân,
i’w puro fel mae arian yn cael ei buro,
a’u profi fel mae aur yn cael ei brofi.
Byddan nhw’n galw ar fy enw i,
a bydda i’n ateb.
Bydda i’n dweud, ‘Fy mhobl i ydy’r rhain,’
a byddan nhw’n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”
اکنون انتخاب شده:
Sechareia 13: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023