Rhufeiniaid 6
6
Wedi marw i bechod, ond yn fyw gyda’r Meseia
1Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi’n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni? 2Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i’r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd? 3Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni’n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i’r Meseia Iesu, roedden ni’n uniaethu â’i farwolaeth e. 4Wrth gael ein bedyddio, cawson ni’n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o’r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
5Os ydyn ni wedi’n huno â’i farwolaeth, dŷn ni’n siŵr o gael ein huno hefyd â’i atgyfodiad. 6Mae beth roedden ni’n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda’r Meseia, er mwyn i’r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy. 7Os ydy rhywun wedi marw, mae’n rhydd o afael pechod. 8Ond os ydyn ni wedi marw gyda’r Meseia dŷn ni’n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd! 9Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi’i godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach. 10Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e’n byw i glodfori Duw! 11Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â’r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
12Peidiwch gadael i bechod reoli’ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i’w chwantau. 13Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o’ch corff i’w ddefnyddio i wneud beth sy’n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a’ch defnyddio chi i wneud beth sy’n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd. 14Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy’n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi’ch gollwng chi’n rhydd!
Caethweision i beth sy’n iawn
15Felly, ydyn ni’n mynd i ddal ati i bechu am ein bod wedi profi haelioni Duw ac mai nid y Gyfraith sy’n ein rheoli ni bellach? Na! Wrth gwrs ddim! 16Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae’n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw. 17Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi’i ddysgu i chi. 18Dych chi wedi’ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy’n iawn.
19Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy’n hawdd i chi ei ddeall: O’r blaen roeddech chi’n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy’n iawn eich rheoli chi, a’ch gwneud chi’n bobl sy’n byw bywydau glân. 20Pan oeddech chi’n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy’n iawn. 21Ond beth oedd canlyniad hynny yn y pen draw? Marwolaeth! Dyna oedd canlyniad y pethau mae gynnoch chi gymaint o gywilydd ohonyn nhw bellach. 22Ond nawr dych chi’n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy’r bywyd glân sy’n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol. 23Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
اکنون انتخاب شده:
Rhufeiniaid 6: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023