Numeri 34
34
Ffiniau’r wlad
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch chi i mewn i wlad Canaan, dyma’r ffiniau i’r tir dw i’n ei roi i chi i’w etifeddu: 3Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i’r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i’r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.#34:3 Hebraeg, “Môr Halen”. 4Bydd yn mynd i’r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef “Bwlch y Sgorpion”), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon. 5O’r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi’r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
6“‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i’r gorllewin.
7“‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor, 8ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad. 9Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.
10“‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam; 11wedyn o Sheffam i Ribla sydd i’r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea, 12ac ar hyd afon Iorddonen yr holl ffordd i’r Môr Marw.#34:12 Hebraeg, “Môr Halen”. Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”
13A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma’r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae’r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i’r naw llwyth a hanner sydd ar ôl. 14Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse, wedi cael eu tir nhw. 15Maen nhw wedi cael tir yr ochr yma i’r Iorddonen, sef i’r dwyrain o Jericho.”
Y dynion sydd i rannu’r tir
16Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 17“Dyma’r dynion fydd yn gyfrifol am rannu’r tir rhyngoch chi: Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nwn. 18A rhaid i chi gymryd un arweinydd o bob llwyth i helpu gyda’r gwaith.” 19-28Dyma enwau’r arweinwyr ddewisodd yr ARGLWYDD:
| Arweinydd | Llwyth |
|---|---|
| Caleb fab Jeffwnne | Jwda |
| Shemwel fab Amihwd | Simeon |
| Elidad fab Cislon | Benjamin |
| Bwcci fab Iogli | Dan |
| Channiel fab Effod | Manasse |
| Cemwel fab Shifftan | Effraim |
| Elitsaffan fab Parnach | Sabulon |
| Paltiel fab Assan | Issachar |
| Achihwd fab Shelomi | Asher |
| Pedahel fab Amihwd | Nafftali |
29Y rhain gafodd eu dewis gan yr ARGLWYDD i fod yn gyfrifol am rannu tir Canaan rhwng pobl Israel.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 34: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023