Numeri 26
26
Yr ail gyfrifiad
1Ar ôl i’r pla orffen, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, ac wrth Eleasar fab Aaron, yr offeiriad: 2“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad arall o bobl Israel – pawb o bob llwyth sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â’r fyddin.”
3Ar y pryd, roedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. A dyma Moses ac Eleasar yn dweud wrthyn nhw, 4“Rhaid cyfrif pawb dros ugain oed.” Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Moses.
A dyma bobl Israel ddaeth allan o wlad yr Aifft:
Llwyth Reuben
5O lwyth Reuben (mab hynaf Jacob) – disgynyddion Chanoch, Palw, 6Hesron, a Carmi. 7Cyfanswm Reuben oedd 43,730. 8(Roedd Eliab yn un o ddisgynyddion Palw, 9sef tad Nemwel, Dathan ac Abiram. Roedd Dathan ac Abiram gyda Cora yn arwain y bobl wnaeth droi yn erbyn Moses ac Aaron a gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD. 10A dyma’r ddaear yn agor ac yn eu llyncu nhw a Cora. Lladdodd y tân ddau gant pum deg ohonyn nhw. Mae beth ddigwyddodd iddyn nhw yn rhybudd i ni. 11Ond wnaeth llinach Cora ei hun ddim diflannu’n llwyr.)
Llwyth Simeon
12O lwyth Simeon – disgynyddion Nemwel, Iamîn, Iachîn, 13Serach, a Saul. 14Cyfanswm Simeon oedd 22,200.
Llwyth Gad
15O lwyth Gad – disgynyddion Seffon, Haggi, Shwni, 16Osni, Eri, 17Arod, ac Areli. 18Cyfanswm Gad oedd 40,500.
Llwyth Jwda
19Roedd gan Jwda ddau fab, Er ac Onan, ond buodd y ddau farw yn fuan yn Canaan. 20O lwyth Jwda – disgynyddion Shela, Perets, a Serach. 21Ac o Perets – disgynyddion Hesron a Chamŵl. 22Cyfanswm Jwda oedd 76,500.
Llwyth Issachar
23O lwyth Issachar – disgynyddion Tola, Pwa, 24Iashŵf, a Shimron. 25Cyfanswm Issachar oedd 64,300.
Llwyth Sabulon
26O lwyth Sabulon – disgynyddion Sered, Elon, a Iachleël. 27Cyfanswm Sabulon oedd 60,500.
Llwythau Manasse ac Effraim
28Roedd dau lwyth, sef Manasse ac Effraim, yn ddisgynyddion i Joseff. 29O lwyth Manasse – disgynyddion Machir a’i fab Gilead. 30O Gilead – disgynyddion Ieser, Chelec, 31Asriel, Sechem, 32Shemida, a Cheffer. 33(Doedd gan Seloffchad fab Cheffer ddim meibion, dim ond merched. Ac enwau’r merched oedd Machla, Noa, Hogla, Milca a Tirtsa.) 34Cyfanswm Manasse oedd 52,700.
35O lwyth Effraim – disgynyddion Shwtelach, Becher, a Tachan. 36Ac o Shwtelach – disgynyddion Eran. 37Cyfanswm Effraim oedd 32,500. Roedden nhw i gyd yn ddisgynyddion Joseff, drwy Manasse ac Effraim.
Llwyth Benjamin
38O lwyth Benjamin – disgynyddion Bela, Ashbel, Achiram, 39Sheffwffâm, a Chwffam. 40Wedyn o feibion Bela – disgynyddion Ard a Naaman. 41Cyfanswm Benjamin oedd 45,600.
Llwyth Dan
42O lwyth Dan – disgynyddion Shwcham. Y Shwchamiaid oedd disgynyddion Dan, 43a’u cyfanswm nhw oedd 64,400.
Llwyth Asher
44O lwyth Asher – disgynyddion Imna, Ishfi, a Bereia. 45Wedyn o feibion Bereia – disgynyddion Heber a Malciel. 46Roedd gan Asher ferch hefyd, sef Serach. 47Cyfanswm Asher oedd 53,400.
Llwyth Nafftali
48O lwyth Nafftali – disgynyddion Iachtseël, Gwni, 49Ietser, a Shilem. 50Cyfanswm Nafftali oedd 45,400.
Crynodeb
51Felly cyfanswm y dynion gafodd eu cyfri yn Israel oedd 601,730.
52Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 53“Mae’r tir i gael ei rannu rhwng y llwythau ar sail y ffigyrau yma. 54Mae’r llwythau mwyaf i gael etifeddu mwy o dir na’r llwythau lleiaf. Mae faint o dir fydd pob llwyth yn ei gael yn seiliedig ar y ffigyrau yma. 55Rhaid defnyddio coelbren wrth rannu’r tir, ond mae canlyniadau’r cyfrifiad i gael eu defnyddio i benderfynu faint o dir mae pob llwyth yn ei gael. 56Bydd y tir mae’r llwythau bach a mawr yn ei etifeddu yn cael ei bennu drwy daflu coelbren.”
Llwyth Lefi
57A dyma’r Lefiaid gafodd eu cyfrif – disgynyddion Gershon, Cohath a Merari. 58A disgynyddion eraill Lefi – y Libniaid, Hebroniaid, Machliaid, Mwshiaid a Corahiaid. Cohath oedd tad Amram, 59ac enw gwraig Amram oedd Iochefed, merch Lefi, gafodd ei geni yn yr Aifft. Wedyn plant Amram a Iochefed oedd Aaron, Moses, a Miriam eu chwaer. 60Roedd Aaron yn dad i Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar. 61Ond roedd Nadab ac Abihw wedi marw wrth ddefnyddio tân o rywle arall i wneud offrwm i’r ARGLWYDD.#26:61 Nadab ac Abihw … i’r ARGLWYDD gw. 3:1-4 a Lefiticus 10:1,2. 62Roedd 23,000 o Lefiaid – pob dyn a bachgen oedd dros fis oed. Doedden nhw ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel am fod dim tir i gael ei roi iddyn nhw fel i weddill llwythau Israel.
63Felly dyna ffigyrau’r cyfrifiad wnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad pan oedd pobl Israel yn gwersylla ar wastatir Moab, wrth ymyl afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho. 64Doedd neb o’r dynion gafodd eu cyfrif y tro yma wedi’u cynnwys yn y cyfrifiad cyntaf wnaeth Moses ac Aaron yn anialwch Sinai. 65Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, “Byddan nhw i gyd yn marw yn yr anialwch!” A doedd neb ohonyn nhw ar ôl, ar wahân i Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 26: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023