Numeri 23

23
1A dyma Balaam yn dweud wrth y Brenin Balac, “Adeilada saith allor yma, a pharatoi saith tarw a saith hwrdd i’w haberthu.” 2Dyma Balac yn gwneud hynny, a dyma’r ddau ohonyn nhw yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o’r allorau. 3Yna dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy’n cael eu llosgi. Dw i’n mynd i weld os ydy’r ARGLWYDD am ymateb. Bydda i’n rhannu gyda ti beth bynnag fydd e’n ddweud wrtho i.” A dyma Balaam yn mynd i ben bryn anial. 4A dyma Duw yn dod ato. A dyma Balaam yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi codi saith allor, ac wedi aberthu tarw a hwrdd ar bob un ohonyn nhw.” 5A dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i Balaam, “Dos yn ôl at Balac a rhoi’r neges yma iddo.” 6Pan aeth Balaam yn ôl, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll yno wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. 7A dyma’r neges roddodd Balaam iddo:
“Daeth Balac â fi yma o Aram;
daeth brenin Moab â fi o fynyddoedd y dwyrain:
‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai,
‘tyrd i gondemnio Israel!’
8Ond sut alla i felltithio
pan mae Duw ddim yn gwneud?
Sut alla i gondemnio’r rhai
dydy’r ARGLWYDD ddim am eu condemnio?
9Dw i’n eu gweld nhw o ben y creigiau.
Dw i’n eu gwylio nhw o ben y bryniau.
Maen nhw’n bobl unigryw,
yn wahanol i’r gwledydd eraill.
10Mae Jacob fel llwch – pwy all eu cyfrif?
Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw?
Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn.
Dw i am i’r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”
11A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Beth wyt ti wedi’i wneud? Dw i wedi dod â ti yma i felltithio’r gelyn! A dyma ti’n eu bendithio nhw!” 12A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae’r ARGLWYDD wedi’i roi i mi.”
Ail neges Balaam
13Felly dyma Balac yn dweud wrtho, “Tyrd i rywle arall i edrych arnyn nhw. Fyddi di ddim ond yn gweld rhai ohonyn nhw. Melltithia’r rheiny i mi.” 14Felly dyma Balac yn mynd â Balaam i Gae Soffim (sef ‘Cae’r Gwylwyr’) ar ben Mynydd Pisga. A dyma fe’n codi saith allor yno, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un. 15Dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy’n cael eu llosgi, tra dw i’n mynd i gyfarfod yr ARGLWYDD draw acw.”
16A dyma’r ARGLWYDD yn cyfarfod gyda Balaam, ac yn rhoi neges iddo’i rhannu gyda Balac. 17Pan ddaeth Balaam ato, roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi. A dyma Balac yn gofyn iddo, “Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?” 18A dyma’r neges roddodd Balaam iddo:
“Saf ar dy draed, Balac, a gwrando.
Gwranda’n ofalus, fab Sippor:
19Nid dyn sy’n dweud celwydd ydy Duw.
Dydy e ddim yn berson dynol sy’n newid ei feddwl.
Ydy e’n dweud, a ddim yn gwneud?
Ydy e’n addo, a ddim yn cyflawni? Na!
20Mae e wedi dweud wrtho i am fendithio;
Mae e wedi bendithio, a dw i ddim yn gallu newid hynny.
21Dydy e’n gweld dim drwg yn Jacob,
nac yn gweld dim o’i le ar Israel.
Mae’r ARGLWYDD eu Duw gyda nhw;
mae e wedi’i gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.
22Duw sydd wedi dod â nhw allan o’r Aifft;
mae e’n gryf fel ych gwyllt.
23Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,
na dewiniaeth yn erbyn Israel.
Rhaid dweud am Jacob ac Israel,
‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’
24Bydd y bobl yn codi fel llewes,
ac yn torsythu fel llew.
Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta’r ysglyfaeth
ac yfed gwaed y lladdfa.”
25A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid melltithio nhw o gwbl, a paid bendithio nhw chwaith.” 26Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae’r ARGLWYDD yn ddweud?”
Trydydd neges Balaam
27Yna dyma’r Brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o’r fan honno.” 28A dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Mynydd Peor, sy’n edrych dros yr anialwch. 29A dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Adeilada saith allor i mi yma, a pharatoi saith tarw a saith hwrdd i’w haberthu.” 30Dyma’r brenin Balac yn gwneud hynny, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o’r allorau.

اکنون انتخاب شده:

Numeri 23: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید