Numeri 2
2
Trefn y Llwythau yn y gwersyll
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu’r Tabernacl. Mae pawb i wersylla dan fflag eu llwyth eu hunain. 3-9Ar yr ochr ddwyreiniol, bydd adrannau’r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:
| Llwyth | Arweinydd | Nifer |
|---|---|---|
| Jwda | Nachshon fab Aminadab | 74,600 |
| Issachar | Nethanel fab Tswár | 54,400 |
| Sabulon | Eliab fab Chelon | 57,400 |
| Cyfanswm: | 186,400 |
Y milwyr ar ochr Jwda i’r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.
10-16I’r de, bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:
| Llwyth | Arweinydd | Nifer |
|---|---|---|
| Reuben | Eliswr fab Shedeŵr | 46,500 |
| Simeon | Shelwmiel fab Swrishadai | 59,300 |
| Gad | Eliasaff fab Dewel#2:10-16 gw. Numeri 1:14, a llawer o lawysgrifau Hebraeg. | 45,650 |
| Cyfanswm: | 151,450 |
Y milwyr yma ar ochr Reuben i’r gwersyll fydd yn ail i symud allan.
17Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda phabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae’r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.
18-24Ar yr ochr orllewinol, bydd adrannau’r tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:
| Llwyth | Arweinydd | Nifer |
|---|---|---|
| Effraim | Elishama fab Amihwd | 40,500 |
| Manasse | Gamaliel fab Pedatswr | 32,200 |
| Benjamin | Abidan fab Gideoni | 35,400 |
| Cyfanswm: | 108,100 |
Y milwyr yma ar ochr Effraim i’r gwersyll fydd yn drydydd i symud allan.
25-31I’r gogledd, bydd adrannau’r tri llwyth olaf yn gwersylla dan eu fflag:
| Llwyth | Arweinydd | Nifer |
|---|---|---|
| Dan | Achieser fab Amishadai | 62,700 |
| Asher | Pagiel fab Ochran | 41,500 |
| Nafftali | Achira fab Enan | 53,400 |
| Cyfanswm: | 157,600 |
Y milwyr yma ar ochr Dan i’r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.
32Dyma’r rhai gafodd eu cyfrif o bobl Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd oedd 603,550. 33Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Moses. 34Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
اکنون انتخاب شده:
Numeri 2: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023