Lefiticus 23

23
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel:
“Dw i wedi dewis amserau penodol i chi eu cadw fel gwyliau pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd i addoli:
Y Saboth Wythnosol
3“Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae’r seithfed diwrnod yn Saboth. Diwrnod i chi orffwys a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio lle bynnag fyddwch chi’n byw. Mae’r diwrnod yma yn Saboth i’r ARGLWYDD.
4“Dyma’r gwyliau penodol eraill pan mae’r ARGLWYDD am i chi ddod at eich gilydd i addoli:
Y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw
(Numeri 28:16-25)
5“Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu pan mae’n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o’r mis cyntaf.#23:5 mis cyntaf Abib (sydd hefyd yn cael ei alw yn Nisan), sef mis cyntaf y calendr Hebreig, o tua canol Mawrth i ganol Ebrill. #Exodus 12:1-13; Deuteronomium 16:1,2
6“Mae Gŵyl y Bara Croyw yn dechrau ar y pymthegfed o’r mis hwnnw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo. 7Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. 8Rhaid i chi gyflwyno offrwm i’w losgi i’r ARGLWYDD bob dydd, ac ar y seithfed diwrnod dod at eich gilydd i addoli eto, a pheidio gwneud eich gwaith arferol.”
Cyflwyno ffrwythau cyntaf y cynhaeaf
9Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, 10“Dwed wrth bobl Israel:
“Pan fyddwch chi wedi cyrraedd y wlad dw i’n ei rhoi i chi, ac yn casglu’r cynhaeaf, mae’r ysgub gyntaf o bob cnwd i gael ei rhoi i’r offeiriad. 11Y diwrnod ar ôl y Saboth, mae’r offeiriad i gymryd yr ysgub a’i chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a bydd Duw yn ei derbyn hi. 12Ar y diwrnod hwnnw hefyd, rhaid i chi gyflwyno oen blwydd oed heb nam arno yn offrwm i’w losgi’n llwyr i’r ARGLWYDD. 13Gydag e rhaid llosgi dau gilogram o’r blawd gwenith gorau wedi’i gymysgu gydag olew olewydd, yn rhodd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD, ac offrwm o ddiod hefyd, sef litr o win. 14Peidiwch bwyta dim o’r grawn, fel y mae neu wedi’i grasu, na bara wedi’i wneud ohono chwaith, nes byddwch chi wedi cyflwyno’r offrwm yma. Fydd y rheol yma byth yn newid lle bynnag fyddwch chi’n byw.
Gŵyl y Cynhaeaf
(Numeri 28:26-31)
15“Saith wythnos union ar ôl y diwrnod pan oedd yr ysgub yn cael ei chodi yn offrwm i’r ARGLWYDD, rwyt i ddod ag offrwm arall o rawn newydd. 16Mae hyn i ddigwydd bum deg diwrnod wedyn, sef y diwrnod ar ôl y seithfed Saboth. 17Tyrd â dwy dorth o fara i’w codi a’u chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Maen nhw i gael eu gwneud o ddau gilogram o’r blawd gwenith gorau, a’u pobi gyda burum, fel offrwm wedi’i wneud o rawn cnwd cynta’r cynhaeaf.
18“Hefyd, rhaid cyflwyno saith oen sy’n flwydd oed, tarw ifanc, a dau hwrdd. Anifeiliaid heb unrhyw nam arnyn nhw, i’w llosgi’n llwyr yn offrwm sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD, gyda’r offrwm o rawn a’r offrwm o ddiod sydd i fynd gyda pob un. 19Rwyt i gyflwyno bwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, a dau oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod mor dda ydw i. 20Rhaid i’r offeiriad eu codi nhw – sef y ddau oen – a’u chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD gyda’r bara sydd wedi’i wneud o rawn cnwd cynta’r cynhaeaf. Byddan nhw wedi’u cysegru ac yn cael eu rhoi i’r offeiriaid. 21Dych chi i ddathlu ar y diwrnod yma, a dod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer. Fydd y rheol yma byth yn newid, lle bynnag fyddwch chi’n byw.
22“Pan fyddi’n casglu’r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu’r cwbl o bob cornel o’r cae. A phaid mynd drwy’r cae yn casglu popeth sydd wedi’i adael ar ôl. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, a’r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Gŵyl yr Utgyrn
(Numeri 29:1-6)
23Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 24“Dwed wrth bobl Israel:
“Ar ddiwrnod cyntaf y seithfed mis#23:24 seithfed mis gw. y sylw ar 16:29. dych chi i orffwys yn llwyr. Diwrnod y cofio fydd hwn, yn cael ei gyhoeddi drwy ganu utgyrn pan fyddwch chi’n dod at eich gilydd i addoli. 25Peidiwch gweithio fel arfer, ond dod a chyflwyno rhoddion i’w llosgi i’r ARGLWYDD.”
Y Dydd i wneud pethau’n iawn
(Numeri 29:7-11)
26Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 27“Y degfed diwrnod o’r seithfed mis ydy’r diwrnod i wneud pethau’n hollol iawn rhyngoch chi a Duw. Rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi’n sori am eich pechod, a dod â rhoddion i’w llosgi i’r ARGLWYDD. 28Peidiwch gweithio ar y diwrnod yna, am mai’r diwrnod i wneud pethau’n iawn rhyngoch chi a’r ARGLWYDD eich Duw ydy e. 29Yn wir, os bydd rhywun yn gwrthod mynd heb fwyd, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw. 30Ac os bydd unrhyw un yn gweithio ar y diwrnod hwnnw, bydda i’n dinistrio’r person hwnnw – bydd e’n marw. 31Rhaid i chi beidio gweithio! Fydd y rheol yma byth yn newid, ble bynnag fyddwch chi’n byw. 32Mae’r diwrnod yma yn ddiwrnod o orffwys llwyr i chi, fel y Saboth. Rhaid i chi beidio bwyta o’r amser pan fydd hi’n nosi y noson cynt nes iddi nosi y diwrnod hwnnw. Rhaid i chi ei gadw fel Saboth.”
Gŵyl y Pebyll
(Numeri 29:12-40)
33Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 34“Dwed wrth bobl Israel:
“Ar y pymthegfed diwrnod o’r seithfed mis#23:34 seithfed mis tua canol Medi i ganol Hydref. rhaid i bawb ddathlu Gŵyl y Pebyll am saith diwrnod. 35Does neb i weithio ar ddiwrnod cynta’r Ŵyl. Byddwch yn dod at eich gilydd i addoli. 36Rhaid i chi gyflwyno offrwm i’w losgi i’r ARGLWYDD bob dydd am saith diwrnod. Ar yr wythfed diwrnod, byddwch yn dod at eich gilydd i addoli a chyflwyno rhoddion i’r ARGLWYDD. Dyma’r diwrnod olaf i chi ddod at eich gilydd. Rhaid i chi beidio gweithio o gwbl.
37“Dyma’r gwyliau penodol dw i wedi’u dewis i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi gyflwyno rhoddion i’r ARGLWYDD – offrymau i’w llosgi’n llwyr, offrymau o rawn, aberthau, a’r offrymau o ddiod sydd wedi’u penodi ar gyfer bob dydd. 38Hyn i gyd heb sôn am Sabothau’r ARGLWYDD, eich rhoddion, eich offrymau wrth wneud addewid, a’r offrymau dych chi’n eu rhoi o’ch gwirfodd i’r ARGLWYDD.
39“Ar y pymthegfed diwrnod o’r seithfed mis, pan fyddwch wedi casglu’ch cnydau i gyd, rhaid i chi ddathlu a chynnal Gŵyl i’r ARGLWYDD am saith diwrnod. Mae’r diwrnod cyntaf i fod yn ddiwrnod o orffwys llwyr, a’r wythfed diwrnod hefyd. 40Ar y diwrnod cyntaf, dych chi i gymryd canghennau o’r coed ffrwythau gorau, canghennau coed palmwydd a choed deiliog eraill, a’r helyg sy’n tyfu ar lan yr afon – a dathlu o flaen yr ARGLWYDD eich Duw am saith diwrnod. 41Rhaid i chi ddathlu’r Ŵyl yma i’r ARGLWYDD am saith diwrnod bob blwyddyn. Mae’n rheol sydd i’w chadw bob amser yn y seithfed mis. 42Rhaid i chi aros mewn lloches dros dro am saith diwrnod. Mae pobl Israel i gyd i aros ynddyn nhw, 43er mwyn i’ch plant chi wybod mod i wedi gwneud i bobl Israel aros mewn llochesau felly pan ddes i â nhw allan o wlad yr Aifft. Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.”
44Felly dwedodd Moses wrth bobl Israel am y gwyliau penodol roedd yr ARGLWYDD eisiau iddyn nhw eu cadw.

اکنون انتخاب شده:

Lefiticus 23: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید