Jona 4

4
Jona’n wyllt am fod Duw wedi maddau
1Doedd Jona ddim yn hapus. Roedd e wedi gwylltio’n lân. 2Dyma fe’n gweddïo: O ARGLWYDD, plîs na! Rôn i’n gwybod mai dyma fyddai’n digwydd! Dyna feddyliais i pan oeddwn i adre yn fy ngwlad fy hun, a dyna pam wnes i geisio dianc i Tarshish!
Ti’n Dduw mor garedig a thrugarog,
mor amyneddgar ac anhygoel o hael,
a ddim yn hoffi cosbi!#Salm 103:8; 145:8; Joel 2:13
3Felly, plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae’n well gen i farw na byw i weld hyn! 4Gofynnodd yr ARGLWYDD iddo, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma?”
5Aeth Jona allan o’r ddinas i gyfeiriad y dwyrain, ac eistedd i lawr. Gwnaeth loches iddo’i hun, ac eistedd yn ei gysgod, yn disgwyl i weld beth fyddai’n digwydd i Ninefe. 6A dyma’r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i blanhigyn bach dyfu uwchben Jona. Roedd i gysgodi drosto, i’w gadw rhag bod yn rhy anghyfforddus. Roedd Jona wrth ei fodd gyda’r planhigyn. 7Ond yn gynnar iawn y bore wedyn anfonodd Duw bryfyn i ymosod ar y planhigyn, a dyma fe’n gwywo. 8Yna yn ystod y dydd dyma Duw yn anfon gwynt poeth o’r dwyrain. Roedd yr haul mor danbaid nes bod Jona bron llewygu. Roedd e eisiau marw, a dyma fe’n gweiddi, “Byddai’n well gen i farw na byw!”
9Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn iddo, “Ydy’n iawn i ti fod wedi gwylltio fel yma o achos planhigyn bach?” Ac meddai Jona, “Ydy, mae yn iawn. Dw i’n hollol wyllt!” 10A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho: “Ti’n poeni am blanhigyn bach wnest ti ddim gofalu amdano na gwneud iddo dyfu. Roedd e wedi tyfu dros nos a gwywo’r diwrnod wedyn! 11Ydy hi ddim yn iawn i mi fod â chonsýrn am y ddinas fawr yma, Ninefe? Mae yna dros gant dau ddeg o filoedd o bobl ddiniwed#4:11 ddiniwed Hebraeg, “sy’n methu gwahaniaethu rhwng y llaw chwith a’r llaw dde”. yn byw ynddi – a lot fawr o anifeiliaid hefyd!”

اکنون انتخاب شده:

Jona 4: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید