Hosea 12
12
1Mae Effraim#12:1 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. yn rhedeg ar ôl cysgodion –
mae fel ffŵl sy’n dyheu am wynt poeth y dwyrain!
Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn.
Mae’n gwneud cytundeb gydag Asyria,
ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i’r Aifft!
2Mae’r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda:
bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn;
talu’n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi’i wneud.
3Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth,#Genesis 25:26
a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!#Genesis 32:24-26
4Reslo gydag angel heb golli –
crio a pledio arno i’w fendithio.
Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethel
a siarad ag e yno#Genesis 28:10-22 –
5Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw hollbwerus!
Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!
6Rhaid i ti droi’n ôl at Dduw! –
byw bywyd o gariad a chyfiawnder,
a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.
7Fel masnachwyr gyda chlorian sy’n twyllo,
maen nhw wrth eu boddau’n manteisio.
8Ac mae Effraim yn brolio: “Dw i’n gyfoethog!
Dw i wedi gwneud arian mawr!
A does neb yn gallu gweld y twyll;
neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”
9“Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw
ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Dw i’n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto,
fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.#Lefiticus 23:42,43
10Dw i wedi siarad drwy’r proffwydi –
mewn gweledigaethau a negeseuon.”
11Ydy Gilead yn addoli eilunod?
Ydy, a does dim dyfodol i’w phobl!
Ydyn nhw’n aberthu teirw yn Gilgal?
Ydyn, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrig
mewn cae wedi’i aredig!
12Roedd rhaid i Jacob#12:12 Jacob Cafodd ei enw ei newid i Israel (gw. Genesis 32:28). ddianc i wlad Aram#12:12 Aram Gogledd Syria. #Genesis 29:1-20 –
gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,
a chadw defaid i dalu amdani.
13Yna defnyddiodd yr ARGLWYDD broffwyd
i arwain Israel allan o’r Aifft,#Exodus 12:50,51
ac i’w cadw nhw’n fyw yn yr anialwch.
14Ond mae Effraim wedi’i bryfocio i ddigio.
Bydd ei Feistr yn ei ddal yn gyfrifol am y tywallt gwaed,
ac yn gwneud iddo dalu am fod mor ddirmygus.
اکنون انتخاب شده:
Hosea 12: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023