Eseciel 48
48
Rhannu’r tir rhwng y llwythau
1“Dyma enwau llwythau Israel, a’r tir mae pob un i’w dderbyn: Bydd Dan reit yn y gogledd, wrth ymyl ffordd Chethlon i Fwlch Chamath, cyn belled â Chatsar-einan ar y ffin gyda Damascus a Chamath i’r gogledd. Bydd tir Dan yn ymestyn ar draws y wlad o’r dwyrain i’r gorllewin. 2Wedyn y nesaf i lawr, yn ffinio gyda Dan, ac eto’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin, bydd Asher. 3Wedyn Nafftali, i’r de o Asher. 4Wedyn Manasse. 5Wedyn Effraim. 6Wedyn Reuben. 7Ac wedyn Jwda. Pob un ohonyn nhw yn ymestyn ar draws y wlad o’r dwyrain i’r gorllewin.
Y tir cysegredig yn y canol
8“Yna’n ffinio gyda Jwda bydd y tir cysegredig sy’n wyth milltir o led, a’r un hyd â thiroedd y llwythau o’r dwyrain i’r gorllewin; a bydd y cysegr yn ei ganol. 9Bydd y tir sydd wedi’i gysegru a’i neilltuo i’r ARGLWYDD yn wyth milltir o hyd, a thair milltir a chwarter o led. 10Bydd y tir yma sydd wedi’i gysegru yn cael ei rannu rhwng yr offeiriaid – wyth milltir o’r gogledd i’r de, a thair milltir a hanner o’r dwyrain i’r gorllewin. A bydd cysegr yr ARGLWYDD yn ei ganol. 11Hwn fydd y tir i’r offeiriaid, sef disgynyddion Sadoc wnaeth ddal ati i wneud eu gwaith heb grwydro i ffwrdd fel y gwnaeth gweddill pobl Israel a’r Lefiaid. 12Eu darn arbennig nhw o’r tir fydd e; y tir mwyaf cysegredig o’r cwbl, gyda thir y Lefiaid eraill drws nesa iddyn nhw.
13“Bydd tir y Lefiaid hefyd yn wyth milltir o hyd a thair milltir a chwarter o led. Bydd y cwbl gyda’i gilydd yn wyth milltir o hyd a chwe milltir a hanner o led. 14Dydy’r tir arbennig yma byth i gael ei werthu na’i gyfnewid, na’i ddefnyddio gan unrhyw un arall. Mae wedi’i gysegru a’i neilltuo’n arbennig i’r ARGLWYDD.
15“Bydd y gweddill – milltir a hanner o led ac wyth milltir o hyd – yn dir cyhoeddus i adeiladu tai arno neu ei gadw’n dir agored. Ond bydd y ddinas yn ei ganol. 16Bydd y ddinas yn mesur milltir a hanner bob ffordd. 17A bydd tir agored rhyw gant tri deg metr o led o gwmpas y ddinas i gyd. 18Bydd gweddill y tir, sydd bob ochr i’r tir cysegredig yn dir amaeth, i dyfu bwyd ar gyfer y bobl sy’n gweithio yn y ddinas. Tair milltir a hanner ar yr ochr ddwyreiniol, a thair milltir a hanner i’r gorllewin. 19Bydd y tir yma’n cael ei ffermio gan bobl o’r gwahanol lwythau sydd wedi dod i weithio yn y ddinas. 20Bydd y darn tir i gyd (y tiroedd cysegredig a thiroedd y ddinas gyda’i gilydd) yn wyth milltir i bob cyfeiriad.
21“Pennaeth y wlad fydd piau’r gweddill (sef beth sydd ar ôl bob ochr i’r tir cysegredig a thir amaeth y ddinas). Bydd yn ymestyn o ymylon yr wyth milltir o dir cysegredig, yr holl ffordd i’r ffin ddwyreiniol un ochr ac i Fôr y Canoldir yr ochr arall. A bydd y tir cysegredig a’r deml ei hun yn y canol. 22Bydd tir y Lefiaid yn y canol hefyd, a thir amaeth y ddinas, gyda thir pennaeth y wlad bob ochr iddo. Bydd tir y pennaeth yn ymestyn o ffin Jwda i ffin Benjamin.
Tir y llwythau eraill
23“Wedyn tiroedd gweddill y llwythau: Tir Benjamin nesaf, yn ymestyn ar draws y wlad o’r dwyrain i’r gorllewin. 24Wedyn tir Simeon. 25Wedyn Issachar. 26Wedyn Sabulon. 27Ac yn olaf Gad. 28A bydd tir Gad yn dilyn y ffin ddeheuol, ar draws o Tamar at Ffynnon Meriba yn Cadesh, ar hyd Wadi’r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir. 29Dyma’r tir sydd i gael ei rannu rhwng llwythau Israel,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.
Giatiau’r ddinas
30Dyma ddisgrifiad o’r ddinas o’r tu allan: Ar yr ochr ogleddol, sydd filltir a hanner o hyd, 31bydd tair giât wedi’u henwi ar ôl llwythau Israel – giât Reuben, giât Jwda, a giât Lefi. 32Ar yr ochr ddwyreiniol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Joseff, giât Benjamin, a giât Dan. 33Ar yr ochr ddeheuol, sydd filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Simeon, giât Issachar, a giât Sabulon. 34Ac ar yr ochr orllewinol, sydd eto filltir a hanner o hyd, bydd tair giât – giât Gad, giât Asher, a giât Nafftali. 35Mae’r ddinas yn mesur chwe milltir o’i chwmpas i gyd, ac enw’r ddinas o hynny ymlaen fydd Iahwe-Shamma: “Mae’r ARGLWYDD yna.”
اکنون انتخاب شده:
Eseciel 48: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023