Exodus 37

37
Gwneud yr Arch
(Exodus 25:10-22)
1Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi’n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 2Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a’r tu allan), a gosod border aur o’i chwmpas i’w haddurno. 3Yna gwneud pedwar cylch aur, a’u gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr. 4Yna gwneud polion o goed acasia wedi’u gorchuddio gydag aur, 5a rhoi’r polion drwy’r cylchoedd bob ochr i’r Arch, i’w defnyddio i’w chario hi.
6Wedyn dyma fe’n gwneud caead o aur pur i’r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 7Yna gwneud dau gerwb o aur wedi’i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i’r caead, 8yn un darn gyda’r caead ei hun. 9Roedd adenydd y cerwbiaid ar led ac yn cysgodi caead yr Arch. Roedd y cerwbiaid yn wynebu’i gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.
Bwrdd y bara sydd i’w gyflwyno i Dduw
10Wedyn dyma fe’n gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 11Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o’i gwmpas i’w addurno. 12Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o’i gwmpas – hwnnw hefyd wedi’i addurno yr un fath â’r border. 13Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a’u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae’r coesau, 14wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi’r polion drwyddyn nhw i gario’r bwrdd. 15Yna gwnaeth y polion o goed acasia a’u gorchuddio nhw gydag aur. 16Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a phowlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.
Gwneud y stand i ddal y lampau – y Menora
(Exodus 25:31-40)
17Yna dyma fe’n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi’i guro. Mae’r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a’r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 18Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau’r menora, tair bob ochr. 19Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a phetalau. 20Ac ar brif goes y menora, roedd pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. 21Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 22Roedd y cwbl wedi’i wneud o un darn o aur pur wedi’i guro – gwaith morthwyl. 23Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a’i phadellau o aur pur. 24Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a’r offer oedd gyda hi i gyd.
Gwneud yr allor i losgi arogldarth
(Exodus 30:1-5)
25Yna dyma fe’n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda’r allor ei hun. 26Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a’r cyrn. A gosod border aur o’i chwmpas i’w haddurno. 27Rhoddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â’i gilydd o dan y border, i roi’r polion drwyddyn nhw i gario’r allor. 28Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a’u gorchuddio nhw gydag aur.
Gwneud yr olew eneinio a’r arogldarth
(Exodus 30:22-38)
29Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a’r arogldarth persawrus, cymysgedd gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

اکنون انتخاب شده:

Exodus 37: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید