Exodus 25
25
Sut i godi’r Tabernacl
(Exodus 35:4-9)
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Dwed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy’n awyddus i gyfrannu. 3Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres, 4edau las, porffor a coch, lliain main drud, blew gafr, 5crwyn hyrddod wedi’u llifo’n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia, 6olew i’r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a’r arogldarth persawrus, 7onics a gemau eraill i’w gosod ar yr effod a’r boced fydd yn mynd dros y frest. 8Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw. 9Dw i eisiau i’r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i’n dangos i ti.
Yr Arch
(Exodus 37:1-9)
10“Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia – 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 11Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a’r tu allan), a gosod border aur o’i chwmpas i’w haddurno. 12Yna gwneud pedwar cylch aur, a’u gosod nhw ar draed y gist, dau bob ochr. 13A dau bolyn o goed acasia wedi’u gorchuddio gydag aur. 14Mae’r polion i ffitio drwy’r cylchoedd bob ochr i’r Arch, ac i’w defnyddio i’w chario hi. 15Mae’r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser – rhaid peidio eu tynnu nhw allan. 16Wedyn mae Llechi’r Dystiolaeth, dw i’n eu rhoi i ti, i’w gosod y tu mewn i’r Arch.
17“Yna gwneud caead o aur pur i’r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 18-19Yna gwneud dau gerwb o aur wedi’i guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i’r caead, yn un darn gyda’r caead ei hun. 20Mae’r cerwbiaid i fod yn wynebu’i gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch. 21Mae’r caead i’w osod ar yr arch, a Llechi’r Dystiolaeth i’w gosod y tu mewn iddi. 22Dyma ble bydda i’n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau gerwb sydd uwchben caead yr Arch, bydda i’n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.
Bwrdd y bara i’w gyflwyno i Dduw
(Exodus 37:10-16)
23“Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 24Mae’r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i’w osod o’i gwmpas i’w addurno. 25Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o’i gwmpas – hwnnw hefyd wedi’i addurno yr un fath â’r border. 26Yna gwneud pedwar cylch aur, a’u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae’r coesau, 27wrth ymyl y croeslath. Mae’r cylchoedd ar gyfer rhoi’r polion drwyddyn nhw i gario’r bwrdd. 28Mae’r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi’u gorchuddio gydag aur. 29Hefyd platiau, pedyll, jygiau a phowlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod. 30Mae’r bara cysegredig i gael ei osod o mlaen i ar y bwrdd yma bob amser.
Stand i ddal y lampau – y Menora
(Exodus 37:17-24)
31“Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi’i guro. Mae’r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a’r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 32Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau’r menora, tair bob ochr. 33Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau. 34Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau; 35un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 36Mae’r cwbl i’w wneud o un darn o aur pur wedi’i guro – gwaith morthwyl. 37Yna rhaid gwneud saith lamp, a’u gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o’i blaen hi. 38Mae’r gefeiliau a’r padellau hefyd i’w gwneud o aur pur. 39Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a’r offer i gyd. 40Gwna’n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 25: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023