Exodus 15
15
Y Gân wrth y Môr Coch
1Dyma Moses a phobl Israel yn canu’r gân yma i’r ARGLWYDD:
“Dw i am ganu i’r ARGLWYDD
a dathlu ei fuddugoliaeth:
Mae e wedi taflu’r ceffylau
a’u marchogion i’r môr!
2Yr ARGLWYDD sy’n rhoi nerth a chân i mi!
Fe sydd wedi fy achub i.
Dyma’r Duw dw i’n ei addoli –
Duw fy nhad, a dw i’n mynd i’w ganmol!
3Yr ARGLWYDD ydy ei enw e.
Mae’r ARGLWYDD yn rhyfelwr.
4Mae wedi taflu cerbydau y Pharo
a’i fyddin i gyd i’r môr!
Cafodd eu swyddogion gorau
eu boddi yn y Môr Coch.#15:4 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
5Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw,
a dyma nhw’n suddo i’r gwaelod fel carreg.
6Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD;
dy law gref di wnaeth ddryllio’r gelyn.
7Am dy fod mor aruthrol fawr,
rwyt ti’n bwrw i lawr y rhai sy’n codi yn dy erbyn –
Ti’n dangos dy fod yn ddig,
ac maen nhw’n cael eu difa fel bonion gwellt.
8Wrth i ti chwythu dyma’r dŵr yn codi’n bentwr,
y llif yn sefyll fel argae,
a’r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
9Dyma’r gelyn yn dweud,
‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw,
a rhannu’r ysbail!
Dw i’n mynd i gael amser da!
Fydd neb ar ôl i’r cleddyf ei daro –
dw i’n mynd i’w dinistrio nhw’n llwyr!’
10Ond dyma ti’n chwythu,
a dyma’r môr yn llifo drostyn nhw!
Dyma nhw’n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!
11Pa un o’r duwiau sy’n debyg i ti, ARGLWYDD?
Does neb tebyg i ti –
mor wych, ac mor sanctaidd,
yn haeddu dy barchu a dy foli;
ti’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
12Dyma ti’n codi dy law gref
a dyma’r ddaear yn llyncu’r gelyn!
13Yn dy gariad byddi’n arwain
y bobl rwyt wedi’u rhyddhau;
byddi’n eu tywys yn dy nerth
i’r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
14Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu –
bydd pobl Philistia yn poeni,
15ac arweinwyr Edom wedi brawychu.
Bydd dynion cryf Moab yn crynu,
a phobl Canaan yn poeni.
16Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw –
mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud
fel carreg.
Fyddan nhw’n gwneud dim nes bydd dy bobl
wedi pasio heibio, ARGLWYDD;
nes i’r bobl wnest ti eu prynu basio heibio.
17Ond byddi’n mynd â nhw i mewn
ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun –
ble wyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD;
y cysegr rwyt ti wedi’i sefydlu.
18Yr ARGLWYDD sy’n teyrnasu am byth bythoedd!
19Pan aeth ceffylau y Pharo, a’i gerbydau a’i filwyr, i’r môr, dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo’n ôl drostyn nhw. Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”
Miriam a’r merched yn dawnsio
20Yna dyma Miriam y broffwydes (chwaer Aaron) yn gafael mewn drwm llaw, a dyma’r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl, gan ddawnsio.
21Roedd Miriam yn canu’r gytgan:
“Canwch i’r ARGLWYDD
i ddathlu ei fuddugoliaeth!
Mae wedi taflu’r ceffylau
a’u marchogion i’r môr!”
Dŵr chwerw Mara
22Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Aethon nhw allan i Anialwch Shwr. Buon nhw’n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr. 23Yna dyma nhw’n cyrraedd Mara, ond roedden nhw’n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”) 24Dyma’r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni’n mynd i’w yfed?” medden nhw. 25Dyma Moses yn gweddïo’n daer am help, a dyma’r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i’r dŵr, roedd y dŵr yn iawn i’w yfed.
Yn Mara, dyma’r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw: 26“Os byddwch chi’n ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae’n ei ddweud a cadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde’r afiechydon wnes i daro’r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy’r ARGLWYDD sy’n eich iacháu chi.”
27Yna dyma nhw’n cyrraedd Elim, lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd. A dyma nhw’n gwersylla yno wrth ymyl y ffynhonnau.
اکنون انتخاب شده:
Exodus 15: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023