Effesiaid 6

6
Plant a rhieni
1Dylech chi’r plant sy’n perthyn i’r Arglwydd fod yn ufudd i’ch rhieni, am mai dyna’r peth iawn i’w wneud. 2Y gorchymyn cyntaf sydd ag addewid ynghlwm wrtho ydy: Gofala am dy dad a dy fam, 3a bydd pethau’n mynd yn dda i ti, a chei fyw’n hir. #Exodus 20:12; Deuteronomium 5:16
4Chi’r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy’n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a’u dysgu nhw i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.
Caethweision a meistri
5Chi sy’n gaethweision, byddwch yn gwbl ufudd i’ch meistri daearol, a dangos parch go iawn atyn nhw. Gweithiwch yn galed, yn union fel petaech chi’n gweithio i’r Meseia ei hun – 6nid dim ond er mwyn ennill ffafr y meistr pan mae’n eich gwylio chi. Fel caethweision y Meseia, ewch ati o ddifri i wneud beth mae Duw am i chi ei wneud. 7Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i’r Arglwydd ei hun, dim i bobl. 8Cofiwch mai’r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae’n ei wneud – caethwas neu beidio.
9A chi’r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a’r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau!#gw. Deuteronomium 10:17
Arfwisg gan Dduw
10Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe. 11Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. 12Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol. 13Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr. 14Safwch gyda gwirionedd wedi’i rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,#adlais o Eseia 11:5; adlais o Eseia 59:17; Doethineb Solomon 5:18 15a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed.#adlais o Eseia 52:7 (LXX) 16Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi. 17Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen,#cyfeiriad at Eseia 59:17 (LXX) a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw. 18A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae’r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo’n daer dros bobl Dduw i gyd.
19A gweddïwch drosto i hefyd. Gweddïwch y bydd Duw’n rhoi’r geiriau iawn i mi bob tro bydda i’n agor fy ngheg, er mwyn i mi rannu dirgelwch y newyddion da yn gwbl ddi-ofn. 20Llysgennad y Meseia Iesu ydw i, mewn cadwyni am gyhoeddi ei neges. Gweddïwch y bydda i’n dal ati i wneud hynny’n gwbl ddi-ofn, fel y dylwn i wneud!
Cyfarchion i gloi
21Bydd Tychicus, sy’n frawd annwyl iawn ac yn weithiwr ffyddlon i’r Arglwydd, yn dweud wrthoch chi sut mae pethau’n mynd a beth dw i’n ei wneud. 22Dyna pam dw i’n ei anfon e atoch chi yn un swydd, i chi gael gwybod sut ydyn ni, ac er mwyn iddo godi’ch calon chi.
23Frodyr a chwiorydd, dw i am i Dduw y Tad a’r Arglwydd Iesu Grist eich galluogi chi i fyw mewn heddwch, caru’ch gilydd ac ymddiried yn llwyr ynddo fe. 24Dw i’n gweddïo y bydd pawb sy’n caru ein Harglwydd Iesu Grist o waelod calon yn profi o’i haelioni rhyfeddol.

اکنون انتخاب شده:

Effesiaid 6: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید