Effesiaid 2

2
Yn fyw drwy berthyn i’r Meseia
1Ar un adeg roeddech chi’n farw’n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. 2Roeddech chi’n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi’n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw. 3Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni’n byw i blesio’r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. 4Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! 5Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dŷn ni wedi’n hachub! 6Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda’r Meseia Iesu a’n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi’n huno gydag e! 7Felly bydd haelioni Duw i’w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i’r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. 8Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e! 9Dych chi’n gallu gwneud dim i’w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. 10Duw sydd wedi’n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi’n creu mewn perthynas â’r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi’u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.
Un yn ein perthynas â’r Meseia
11Mae’n dda i chi gofio eich bod chi sydd o genhedloedd eraill yn arfer bod ‘ar y tu allan’. ‘Y dienwaediad’ oeddech chi’n cael eich galw gan ‘bobl yr enwaediad’ – sef yr Iddewon sy’n cadw’r ddefod o dorri’r blaengroen ar fechgyn i ddangos eu bod nhw’n perthyn i Dduw. 12Cofiwch eich bod chi bryd hynny yn gwybod dim am y Meseia. Doeddech chi ddim yn perthyn i bobl Dduw, nac yn gwybod dim am yr addewid a’r ymrwymiad wnaeth Duw. Roeddech chi’n byw yn y byd heb unrhyw obaith a heb berthynas gyda Duw. 13Ond bellach, dych chi wedi cael eich uno gyda’r Meseia Iesu! Dych chi, oedd mor bell i ffwrdd ar un adeg, wedi cael dod i berthyn, a hynny am fod y Meseia wedi gwaedu a marw ar y groes.
14Ac ydy, mae Iesu’n gwneud y berthynas rhyngon ni a’n gilydd yn iawn hefyd – ni’r Iddewon a chi sydd o genhedloedd eraill. Mae wedi’n huno ni gyda’n gilydd. Mae’r wal o gasineb oedd yn ein gwahanu ni wedi cael ei chwalu ganddo! 15Wrth farw ar y groes mae wedi delio gyda’r ffens oedd yn eich cau chi allan, sef holl ofynion y Gyfraith Iddewig a’i rheolau. Gwnaeth hyn er mwyn dod â ni i berthynas iawn â’n gilydd, a chreu un ddynoliaeth newydd allan o’r ddau grŵp o bobl. 16Mae’r ddau yn dod yn un corff sy’n cael ei gymodi gyda Duw drwy beth wnaeth e ar y groes. Dyna sut daeth â’r casineb rhyngon ni i ben. 17Daeth i gyhoeddi’r newyddion da am heddwch i chi o genhedloedd eraill oedd yn ‘bell oddi wrtho’, a heddwch i ni’r Iddewon oedd yn ‘agos’.#cyfeiriad at Eseia 57:19 a 52:7 18Bellach, o achos beth wnaeth Iesu y Meseia mae’r ddau grŵp gyda’i gilydd yn gallu closio at Dduw y Tad drwy’r un Ysbryd Glân.
19Felly dych chi o’r cenhedloedd eraill ddim yn bobl estron mwyach, nac yn bobl sydd ‘y tu allan’. Dych chi bellach yn perthyn i genedl Dduw! Dych chi’n aelodau o’i deulu! 20Dych chi’n rhan o’r un adeilad! Dŷn ni’r cynrychiolwyr personol ddewisodd e, a’r proffwydi, wedi gosod y sylfeini, a’r Meseia Iesu ei hun ydy’r maen clo. 21Dŷn ni i gyd yn cael ein hadeiladu a’n cysylltu â’n gilydd i wneud teml sydd wedi’i chysegru i’r Arglwydd. 22A dych chi, y bobl o genhedloedd eraill sy’n perthyn iddo, yn rhan o’r un adeilad hwnnw lle mae Duw yn byw drwy ei Ysbryd.

اکنون انتخاب شده:

Effesiaid 2: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید