Deuteronomium 10
10
Yr ARGLWYDD yn rhoi’r Deg Gorchymyn
(Exodus 34:1-10)
1“Dyna pryd y dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, ‘Cerfia ddwy lechen garreg, fel y rhai cyntaf, a hefyd gwna gist o bren; yna tyrd i fyny’r mynydd ata i. 2Gwna i ysgrifennu ar y ddwy lechen yr union eiriau oedd ar y llechi cyntaf, y rhai wnest ti eu torri. Yna rhaid i ti eu rhoi nhw yn y gist.’
3“Felly dyma fi’n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â’r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi’n mynd i fyny’r mynydd yn cario’r ddwy lechen. 4A dyma’r ARGLWYDD yn ysgrifennu’r un geiriau ag o’r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn (beth roedd e wedi’i ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd). Yna dyma fe’n eu rhoi nhw i mi, 5a dyma fi’n mynd yn ôl i lawr o’r mynydd, a’u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi’i gwneud. Maen nhw’n dal tu mewn i’r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn.
6“Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma’i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le. 7Wedyn dyma nhw’n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd. 8A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i’w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio’r bobl ar ei ran. Ac maen nhw’n dal i wneud hynny hyd heddiw. 9A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi.
Yr ARGLWYDD yn ateb gweddi Moses
10“Dyma fi’n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma’r ARGLWYDD yn gwrando arna i eto, a phenderfynu peidio’ch dinistrio chi. 11Dyma fe’n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i’w hynafiaid.’
Beth mae’r ARGLWYDD eisiau
12“Nawr, bobl Israel, beth mae’r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â’ch holl galon ac â’ch holl enaid, 13a chadw’r gorchmynion a’r arweiniad dw i’n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau’n mynd yn dda i chi. 14Yr ARGLWYDD sydd biau popeth sy’n bodoli – y ddaear a’r cwbl sydd arni, a’r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod. 15Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis. 16Felly newidiwch eich agwedd,#10:16 newidiwch eich agwedd Hebraeg, “enwaedu blaengroen eich calon”. a pheidio bod mor benstiff! 17Mae’r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na’r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy’r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy’n ddiduedd, a byth yn derbyn breib. 18Mae e’n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e’n caru’r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw. 19Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o’r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft. 20Rhaid i chi barchu’r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio’i enw e’n unig i dyngu llw. 21Fe ydy’r un i’w foli. Fe ydy’ch Duw chi, yr un dych chi wedi’i weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi. 22Pan aeth eich hynafiaid i lawr i’r Aifft, dim ond saith deg ohonyn nhw oedd yna, ond bellach mae cymaint ohonoch chi ag sydd o sêr yn y nefoedd!
اکنون انتخاب شده:
Deuteronomium 10: bnet
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
© Cymdeithas y Beibl 2023