2 Corinthiaid 11

11
Paul a’r ffug-apostolion
1Wnewch chi oddef i mi siarad yn ffôl? – maddeuwch i mi am hyn. 2Os dw i’n genfigennus, Duw sy’n gwneud i mi deimlo felly. Dw i wedi’ch addo chi yn briod i un dyn – ie, dim ond un! Dw i am eich cyflwyno chi’n wyryf bur i’r Meseia. 3Ond dw i ofn i chi gael eich llygru a’ch denu i ffwrdd o’ch ymroddiad llwyr iddo, yn union fel y cafodd Efa ei thwyllo gan yr hen sarff gyfrwys.#gw. Genesis 3:1-5,13 4Mae rhywun yn dod atoch chi ac yn pregethu am Iesu gwahanol i’r un roedden ni’n ei bregethu. Dych chi’n derbyn ysbryd sy’n wahanol, neu ‘newyddion da’ gwahanol, a dych chi’n goddef y cwbl yn ddigon hapus! 5Ond dw i ddim yn meddwl mod i’n israddol o gwbl i’r ‘ffansi-apostolion’ yna. 6Falle nad ydw i’n siaradwr cyhoeddus mawr, ond dw i’n gwybod beth ydy’r gwir. Mae’r gwir wedi cael ei wneud yn ddigon clir i chi bob amser.
7Rôn i wedi cyhoeddi newyddion da Duw i chi yn rhad ac am ddim. Tybed wnes i’r peth anghywir? Diraddio fy hun er mwyn eich anrhydeddu chi. 8Rôn i’n derbyn tâl gan eglwysi eraill er mwyn i mi allu gweithio i chi! 9Hyd yn oed pan oeddwn i’n brin, fues i ddim yn faich ar neb ohonoch chi. Y ffrindiau ddaeth o dalaith Macedonia roddodd i mi bopeth oedd arna i ei angen.#gw. Philipiaid 4:15-18 Dw i wedi osgoi bod yn faich arnoch chi o gwbl, a dw i’n mynd i ddal i wneud hynny. 10Heb unrhyw amheuaeth does neb yn Achaia gyfan yn gallu gwadu hynny. 11Ond pam dw i’n gwneud hyn? Am fy mod i ddim yn eich caru chi? Mae Duw yn gwybod gymaint dw i’n eich caru chi!
12Dw i’n mynd i ddal ati i wneud yr un fath â dw i wedi gwneud bob amser. Bydd hynny’n tynnu’r carped o dan draed y rhai sy’n brolio ac yn ceisio rhoi’r argraff eu bod nhw’n gwneud yr un gwaith â ni! 13Na, ffug-apostolion ydyn nhw; twyllwyr yn cymryd arnyn nhw eu bod nhw’n cynrychioli y Meseia! 14A dim syndod, achos mae Satan ei hun yn cymryd arno ei fod yn angel y goleuni! 15Felly pam ddylen ni ryfeddu os ydy ei weision e’n cymryd arnyn nhw eu bod nhw’n gweithio dros beth sy’n iawn. Byddan nhw’n cael beth maen nhw’n ei haeddu yn y diwedd!
Paul yn sôn am beth roedd wedi’i ddioddef
16Dw i’n dweud eto: peidiwch meddwl fy mod i’n ffŵl. Ond hyd yn oed os dych chi’n meddwl hynny, wnewch chi oddef i mi actio’r ffŵl drwy frolio tipyn bach? 17Wrth frolio fel yma dw i ddim yn siarad fel y byddai’r Arglwydd am i mi siarad – actio’r ffŵl ydw i. 18Ond am fod cymaint yn brolio fel mae’r byd yn gwneud, dw i’n mynd i wneud yr un peth. 19Wedi’r cwbl, er eich bod chi mor ddoeth, dych chi’n barod iawn i oddef ffyliaid! 20Yn wir, dych chi’n fodlon hyd yn oed os ydyn nhw’n eich caethiwo chi. Dych chi’n gadael iddyn nhw gymryd eich arian chi a manteisio arnoch chi. Dych chi’n gadael iddyn nhw gymryd drosodd a chodi cywilydd arnoch chi yn y ffordd maen nhw’n eich trin chi! 21Mae gen i gywilydd ohono i’n hun, fy mod i’n rhy wan i’ch trin chi felly!
Ond os ydyn nhw am frolio, gadewch i mi fentro gwneud yr un peth. (Cofiwch mai actio’r ffŵl ydw i!) 22Maen nhw’n Iddewon sy’n siarad Hebraeg ydyn nhw? A fi! Israeliaid crefyddol, ie? A fi! Disgynyddion Abraham? A fi! 23Gweision i’r Meseia? Dw i’n was gwell! (Dw i wir ddim yn gall yn siarad fel hyn!) Dw i wedi gweithio’n galetach na nhw, wedi bod yn y carchar yn amlach, wedi cael fy nghuro dro ar ôl tro, nes mod i bron marw’n aml.#gw. Actau 16:23-24 24Dw i wedi cael fy chwipio bum gwaith gan yr Iddewon (y tri deg naw chwip).#gw. Deuteronomium 25:3 25Dw i wedi cael fy nghuro â ffyn dair gwaith gan y Rhufeiniaid. Un tro cafodd cerrig eu taflu ata i er mwyn fy lladd i. Dw i wedi bod mewn llongddrylliad dair gwaith.#gw. Actau 16:22; gw. Actau 14:19 Un o’r troeon hynny roeddwn i yn y môr am dros bedair awr ar hugain. 26Yn ystod yr holl deithio di-baid dw i wedi bod mewn peryg gan afonydd, gan ladron, gan fy mhobl fy hun a phobl o genhedloedd eraill;#gw. Actau 9:23; 14:5 dw i wedi bod mewn peryg mewn dinasoedd, wrth deithio drwy dir anial ac ar y môr; a hefyd gan y dynion sy’n cymryd arnyn eu bod nhw’n Gristnogion. 27Dw i wedi gweithio’n wirioneddol galed ac wedi colli cwsg yn aml; wedi profi newyn a syched a mynd heb fwyd yn aml; dw i wedi dioddef o oerfel ac wedi bod heb ddigon o ddillad i gadw’n gynnes. 28A heb sôn am ddim arall, dw i dan bwysau bob dydd o achos y consýrn sydd gen i am yr eglwysi i gyd. 29Os ydy rhywun yn teimlo’n wan, dw i yno gydag e. Os ydy rhywun yn cael ei arwain i bechu, dw i’n berwi y tu mewn!
30Os oes rhaid i mi frolio, mae’n well gen i frolio am y pethau hynny sy’n dangos mor wan ydw i. 31Mae Duw a Thad yr Arglwydd Iesu – yr un sydd i’w foli am byth – yn gwybod mod i’n dweud y gwir. 32Yn Damascus roedd y llywodraethwr dan y Brenin Aretas wedi gorchymyn i’r ddinas gael ei gwarchod er mwyn fy arestio i. 33Ond ces fy ngollwng i lawr o ffenest yn wal y ddinas, mewn basged! Dyna sut llwyddais i ddianc o’i afael!#gw. Actau 9:23-25

اکنون انتخاب شده:

2 Corinthiaid 11: bnet

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید