Matthaw 26
26
PENNOD XXVI.
Y llywodraethwyr yn cyd-fwriadu yn erbyn Crist. Iudas yn ei werthu ef. Crist yn bwytta’r pasg: yn gweddïo yn yr ardd: ac wedi ei fradychu â chusan, yn cael ei arwain at Kaiaphas, a’i wadu gan Pedr.
1A BU, wedi i’r Iesu orphen y geiriau hyn oll, iddo ddywedyd wrth ei ddisgyblion, 2Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg, a Mab y dyn a draddodir i’w groes-hoelio. 3Yna yr ymgasglodd yr arch-offeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr arch-offeiriaid, yr hwn a elwid Kaiaphas: 4A hwy a gyd-ymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. 5Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar y wledd, rhag bod cynnwrf ym mhlith y bobl. 6Ac a’r Iesu yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahanglywfus, 7Daeth atto wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. 8A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorrasant, gan ddywedyd, I pa beth y bu’r golled hon? 9Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11Oblegyd y mae gennych y tlodion bob amser gyd â chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorph, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregethyr yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi. 14Yna’r aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Iudas Iscariot, at yr arch-offeiriaid, 15Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg dryllin ar hugain o arian. 16Ac o hynny allan efe a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef. 17Ac ar y dydd cyntaf o wledd y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni barottôi i ti fwytta’r pasg? 18Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyd â thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 19A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchymynasai yr Iesu iddynt, ac a barottoisant y pasg. 20Ac wedi iddi hwyrhai, efe a eisteddodd gyd â’r deuddeg. 21Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedai, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un o honoch chwi a’m bradycha i. 22A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyd â mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig am dano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn: da a fuasai i’r dyn hwnnw pe na’s ganesid ef. 25A Iudas, yr hwn a’i bradychodd ef, a attebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athraw? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a’i dywedaist. 26Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrai, ac a’i rhoddai i’r disgyblion, ac a ddywedai, Cymmerwch, bwyttêwch hwn yw fy nghorph. 27Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: 28Canys hwn yw fy ngwaed o’r cyfammod newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. 29Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwŷdden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd yn freniniaeth fy Nhad. 30Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewŷdd. 31Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir heno o’m plegyd i: canys ysgrifenedig yw, Tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. 32Eithr wedi fy adgyfodi, mi a af och blaen chwi i Galilaia. 33A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegyd di, etto ni’m rhwystrir i byth. 34Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai y nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. 35Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedai yr holl ddisgyblion. 36Yna y daeth yr Iesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra yr elwyf draw i weddïo. 37Ac efe a gymmerth Pedr, a dau fab Zebedëus, ac a ddechreuodd dristâu ac ymofidio. 38Yna efe a ddywedai wrthynt, Y mae fy enaid yn drist iawn hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyd â mi. 39Ac wedi iddo fyned ychydig ym mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os gellir, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthyf: etto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. 40Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni ellych chwi wylied un awr gyd â mi? 41Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. 42Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, oni’s gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthyf, heb i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di. 43Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhâu. 44Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. 45Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ai cyscu o hyd, a gorphwys ydych? wele, y mae’r awr wedi nesâu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylaw pechaduriaid. 46Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu. 47Ac efe etto yn llefaru, wele, Iudas un o’r deuddeg, a ddaeth, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr arch-offeiriaid a henuriaid y bobl. 48A’r hwn a’i bradychodd ef a roisai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. 49Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athraw; ac a’i cusanodd ef. 50A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y roisant ddwylaw ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. 51Ac wele, un o’r rhai oedd gyd a’r Iesu, a estynodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. 52Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. 53A ydwyt ti yn tybied na’s gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy nâ deuddeg lleng o angylion? 54Pa fodd ynte y cyflawnid yr ysgrythyrau, mai felly y gorfydd bod? 55Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch. 56A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythyrau y prophwydi. Yna’r holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoisant. 57A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Kaiaphas yr arch-offeiriad, lle’r oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghŷd. 58A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr arch-offeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyd â’r rhingyllion, i weled y diwedd. 59A’r arch-offeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gynghor, a geisiasant gau-dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; 60Ac ni’s cawsant: ie, er dyfod yno gau-dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst, 61Ac a ddywedasant, Hwn a ddywedai, Mi a allaf ddinystrio teml Duw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. 62A chyfododd yr arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn! 63Ond yr Iesu a dawodd. A’r arch-offeiriad gan atteb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy y Duw byw, ddywedyd o honot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw. 64Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ol hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheu-law y gallu, ac yn dyfod ar gymmylau y nef. 65Yna y rhwygodd yr arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid i ni mwy wrth dystion? wele, yr awron y clywsoch ei gabledd ef. 66Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth. 67Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i tarawsant ef â gwiail, 68Gan ddywedyd, Prophwyda i ni, O Crist, Pwy yw yr hwn a’th darawodd? 69A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig atto, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gyd ag Iesu y Galilaiad. 70Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Ni’s gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 71A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyd â’r Iesu o Nazaret. 72A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. 73Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un o honynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. 74Yna y dechreuodd efe regu a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. 75A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
اکنون انتخاب شده:
Matthaw 26: JJCN
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

: