Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dwyt ti Heb Orffen EtoSampl

You're Not Finished Yet

DYDD 4 O 5

Y Marathon hwn o'r enw Bywyd

Dw i wrth fy modd yn rhedeg, er nad ydw i o ddifrif am regeg o gwbl. Fy syniad o redeg yw jog araf pum milltir, a phan dw i'n dweud araf, dw i'n golygu bod mamau sy'n gwthio eu babanod mewn pramiau yn gallu mynd heibio imi. Fy ffrind Dawn, yr un dw i'n heicio mynyddoedd gyda hi yw'r rhedwr go iawn. Mae hi'n cystadlu'n rheolaidd mewn marathonau ac wedi adeiladu'r dygnwch corfforol a meddyliol i fynd mor bell. Mae hi wedi rhedeg digon i wybod sut brofiad yw taro wal wrth redeg, cysyniad nad ydw i erioed wedi ei brofi oherwydd mae'n debyg nad wyf erioed wedi rhedeg yn ddigon pell!

Mae taro wal yn fan y gall rhedwyr ei oresgyn â'u meddyliau yn unig. Mae'n fwy meddyliol na chorfforol, hyd yn oed pan fo'r corfforol yn ddirdynnol. Esboniodd Dawn y peth i mi unwaith trwy ddisgrifio beth ddigwyddodd yn ei marathon cyntaf. Roedd hi 23 milltir i mewn pan darodd y wal waradwyddus. Roedd ganddi 36 munud i wneud y 3.2 milltir olaf. Fyddai ddim wedi bod yn broblem pe na bai eisoes wedi rhedeg am filltiroedd a heb fod â phoen deifiol yn curo yn ei chlun chwith. Wrth iddi ddweud, dwedodd ochr chwith ei hymennydd (yr ochr resymegol) wrthi am stopio a cherdded weddill y ffordd. Roedd meddyliau fel, Paid poeni am gyrraedd y nod. Bydd pobl yn deall pan fyddan nhw’n sylweddoli pa mor boeth yw hi a pha mor ddrwg dw i’n brifo, yn taranu yn ei phen. Ond yr un mor uchel, roedd ochr dde ei hymennydd yn taranu yn ei phen, Mae gobaith o hyd! Dydy’r ras ddim drosodd eto! Mae'n dal yn bosibl cyrraedd fy nod. Paid stopio rhedeg!

Wyt ti erioed wedi teimlo dy hun mewn rhyfel meddwl tebyg i hyn? Pan fydd dy feddwl yn sgrechian arnat ti? Mewn ras mae hyn yn digwydd pan fyddi di'n taro wal, pan does gen ti unrhyw beth ar ôl i'w roi, pan fyddi di wedi gwario pob owns o egni, a phopeth o'th mewn eisiau rhoi'r gorau iddi. Ac eto, fel y profodd Dawn, rhywle yn ddwfn y tu mewn iddi, mae fflachiad o’ nod neu freuddwyd yn erfyn arnat ti i beidio â chael ei ddiffodd.

Dw i wedi bod yn y fath le, lle wnes i daro wal yn ysbrydol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Ond ar yr un pryd, roedd gen i Air Duw yn fy nghalon a'm meddwl. Roedd gen i addewidion Duw yn atseinio ynof ar yr un pryd roedd fy meddwl yn sgrechian i mi stopio. Ac oherwydd ei addewidion, y fflachiad o obaith hwnnw, roeddwn i'n gallu dal ati trwy ganolbwyntio fy meddwl ar Dduw a'i Air. Er gwaethaf sawl gwaith y brwydrodd fy meddwl imi roi'r gorau iddi, fe wnes i barhau i ailgyfeirio fy meddwl i ffwrdd o'r hyn yr oedd am ei feddwl a thuag at yr hyn a ddwedodd Gair Duw oedd yn wir.

Efallai dy fod di yn y fath le ar hyn o bryd. Beth mae dy feddwl yn sgrechian arnat ti? Dydy e ddim yn bosibl? Ei bod hi'n rhy hwyr? Nad oes gen ti offer angenrheidiol? Ddim yn ddigon craff? Digon ifanc? Digon hen? Wedi cael digon o addysg? Gelli di ennill y rhyfel yn dy feddwl trwy ei adnewyddu gyda geiriau Duw. Gelli di ddioddef trwy wneud llais Duw yn uwch nag unrhyw lais arall yn dy ben.

Gweddi

O Dad nefol, diolch i ti am dy Air. Helpa fi i ddod yn fwy cyfarwydd â'r hyn y mae'n ei ddweud fel y gallaf gael fy nhrawsnewid trwy adnewyddu fy meddwl, ac fel y gallaf fynd trwy unrhyw wal. Yn enw Iesu, Amen.

Am y Cynllun hwn

You're Not Finished Yet

Oes gen ti'r hyn sydd ei angen i fynd y pellter? I gerdded yn dy bwrpas ar gyfer y daith hir? Canol unrhyw ymdrech - gyrfa, perthnasoedd, gweinidogaeth, iechyd - yn aml yw pan fydd ein gwytnwch a'n dyfalbarhad yn siglo oherwydd bod yr eiliadau canol hynny yn aml yn flêr ac yn galed. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae Christine Caine yn ein hatgoffa y gallwn fynd y pellter - nid oherwydd bod gennym y cryfder ond oherwydd bod Duw yn gwneud hynny.

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.christinecaine.com