Dwyt ti Heb Orffen EtoSampl

Mor Sicr ag Amser Hau a Medi’r Cynhaeaf
Oes gen ti freuddwyd? Syniad? Dyhead i wneud rhywbeth na fydd yn diflannu, rwyt ti'n gwybod fod Duw wedi’i roi ar dy galon? Pan fydd Duw yn rhoi breuddwyd inni, mae'n galw allan yr hyn a osododd y tu mewn i ni cyn i ni hyd yn oed gael ein geni. Dŷn ni'n llawn potensial ar gyfer ei gynlluniau a phwrpas ar gyfer ein bywydau. Eto i gyd, mater i ni yw dyfrio hedyn y potensial hwnnw, i drin ein calonnau, i ddatblygu popeth y mae Duw wedi'i osod y tu mewn i ni.
Meddylia amdano fel hyn: rhoddodd Duw y gallu i goed atgynhyrchu eu hunain trwy eu had. Os wyt ti erioed wedi tynnu côn pinwydd yn ddarnau, fe weli di hadau bach, pob un ag “adain” ynghlwm wrtho. Wedi’i greu felly er mwyn i’r gwynt allu dal yr hedyn a mynd ag e lle gall ddisgyn i’r llawr a dechrau gwreiddio. Yn y pridd cywir, yn yr amgylchedd cywir, bydd yr had hwnnw'n egino ac yn tyfu'n goeden newydd, wedi'i. Roedd y goeden wedi ei thyfu’n llawn bob amser yn yr hedyn, ond doedd neb yn gallu ei weld nes ei roi yn y pridd iawn ac yna ei feithrin gan y glaw a’r haul.
Yn yr un modd, mae'r hadau yn ein calonnau - breuddwydion a syniadau a chynlluniau a dibenion Duw - yn tyfu wrth inni eu dyfrio â ffydd. Mae'r hadau'n tyfu fel dŷn ni'n trin pridd ein calonnau, gan fwydo Gair Duw iddyn nhw a'i gymhwyso yn ein bywydau, gan wneud ein calonnau yn dir da.
Mae cynlluniau a dibenion Duw ar gyfer ein bywydau yn tyfu wrth inni ddal ati i gerdded gydag e, gan adeiladu dygnwch, ac aros gyda’r cynlluniau hynny hyd at eu cwblhau. Dyma sut dŷn ni'n rhoi genedigaeth i'n breuddwydion, i'r syniadau mae Duw yn eu rhoi i ni. Mae’r potensial yno bob amser, ond mae ar ffurf hadau nes inni wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i wneud iddo dyfu.
Mae Duw eisiau i ni dyfu i ble dŷn ni i fynd. Yr her yw ei fod yn wrthddiwylliannol. Mae’n llawer haws cyrraedd ar gyfer yr hyn sydd ar gael yn syth, am yr hyn y gallwn ei ddewis a’i uwchlwytho, am yr hyn y gallwn ei archebu a’i dderbyn yr un diwrnod, ond nid dyna sut mae ffyrdd Duw yn gweithio. Dydyn nhw ddim ar gael ar unwaith. Mae Duw yn gweithio dros amser. Gyda hedyn sydd angen ei feithrin.
Wyt ti’n ymwybodol o gynlluniau Duw ar gyfer dy fywyd? Fedri di deimlo bod unrhyw botensial heb ei gyffwrdd yn gorwedd ynghwsg y tu mewn i ti? Potensial yw'r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy'n wirioneddol a'r hyn sy'n bosibl. Dyma'r gallu sydd heb ei amlygu, y cryfder neilltuol, y llwyddiant sydd heb ei wireddu, y rhoddion segur, a'r doniau cudd sy'n aros i gael eu datblygu. Dyma'r person yr wyt eto i fod. Dyma lle gelli di fynd ond dwyrt ti heb fod yno eto. Dyma'r cyfan y geli di ei wneud ond dwyt ti heb ei wneud eto. Dyma lle gelli di ei gyrraedd ond heb anelu amdano eto.
Does dim rhaid i ti wybod yr holl gynlluniau a dibenion sydd gan Dduw ar dy gyfer, gan fod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n datblygu dros amser, ond wyt ti'n adnabod un ohonyn nhw? Dechreua feithrin yr hedyn hwnnw heddiw a gwylia ef yn dechrau tyfu. Mae mor sicr ag amser hadu a medi’r cynhaeaf.
Gweddi
O Dad nefol, helpa fi i feithrin yr hadau potensial a roddaist y tu mewn i mi. Dw i eisiau tyfu lle rwyt ti eisiau i mi fynd. Yn enw Iesu, Amen.
Am y Cynllun hwn

Oes gen ti'r hyn sydd ei angen i fynd y pellter? I gerdded yn dy bwrpas ar gyfer y daith hir? Canol unrhyw ymdrech - gyrfa, perthnasoedd, gweinidogaeth, iechyd - yn aml yw pan fydd ein gwytnwch a'n dyfalbarhad yn siglo oherwydd bod yr eiliadau canol hynny yn aml yn flêr ac yn galed. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae Christine Caine yn ein hatgoffa y gallwn fynd y pellter - nid oherwydd bod gennym y cryfder ond oherwydd bod Duw yn gwneud hynny.
More