Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Popeth dw i ei AngenSampl

Everything I Need

DYDD 2 O 3

Am fod Duw wedi mynd o'n blaen ac,mae'n ein hamddiffyn i'r ôl. Mae e wedi delio gydag ein brwydrau eisoes. Mae e'n hamddiffyn yr ochr gudd. Dydy digwyddiadau annisgwyl ddim yn peri syndod iddo. Po fwyaf y byddwn yn trio cario’r cleddyf i mewn i’r frwydr, y mwyaf y byddwn yn blino a stryglo. Aeth e o’n blaen ni a sicrhau i ni'r union fesuriad o iachawdwriaeth dŷn ni ei angen. Yr union ddogn a gynlluniwyd ar ein cyfer.


Yn llythrennol. Does dim byd gwell na’r dogn y sicrhaodd e ar gyfer dy fywyd, oherwydd mae’r dogn ordeiniedig gan Dduw ar dy gyfer di, a thi’n unig. Bydd dy ddogn di’n darparu cyflawnder a helaethrwydd i ti, ond nid gymaint felly i’th gymydog. Felly hefyd, dydy dogn dy gymydog ddim o reidrwydd yr un gwneuthuriad ag yr wyt ti ei angen. Yn nogn perffaith Duw ar dy gyfer rwyt yn gwbl ddeffro a byw.


Mae Duw eisiau rhoi ei ddogn e i ti ar gyfer dy fywyd. Dydy e ddim yn un sy’n dal nôl gyda’i roddion da, yn hytrach mae e’n eu perffeithio. Os wnest ti ofyn iddo am fara, fydd e ddim yn rhoi carreg i ti...felly gofynna! Fedrith e ddim disgwyl iti fwynhau’r dogn, y mesuriad hyfryd ac unigryw sydd ar dy gyfer.


Jest, paid dechrau gofyn gan ragdybio dy fod yn gwybod, ymlaen llaw, beth yw’r dogn hwnnw.


Pan fyddwn yn mynd o flaen Duw a datblygu ein breuddwydion a bwriadau ein hunain, heb uniaethu â phwrpas Duw, byddwn yn cael ein siomi.


Cofia heddiw mai e yw DY ddogn, fod ganddo rodd sydd wedi’i fesur yn berffaith a’i brynu’n ofalus ar dy gyfer di. Gweithiodd Iesu drosot ti. Llafuriodd ar dy ran. Dioddefodd drosot ti. Gwaedodd drosot ti. Bu farw drosot ti. Ond, yn bwysicach na dim, nid dy frwydrau’n unig gymrodd, ond gorchfygodd bopeth oedd yn dy fygwth fel dy fod yn gallu byw bywyd llawn.


Duw yw’r cwbl sydd agen arnat. Ddoe, heddiw, ac am byth.


Ac mae’r holl siarad yma am ddogn yn fy ngwneud yn llwglyd. Dw i’n mynd u nôl bisged.



Myfyrdod:


  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng bod eisiau rhywbeth ac angen rhywbeth? Dw i’n meddwl am y peth fel cacen siocled. Dw i eisiau e drwy’r adeg, ond dw i; mewn gwirionedd; ddim ei angen. Wyt ti’n credu fod y dogn sydd gan Duw ar dy gyfer fwy i wneud â’r hyn rwyt eisiau neu’i angen? Darllena Mathew 6:26-33. Beth mae Duw’n ei ddweud wrthot ti drwy’r adnodau hyn?
  • Yn aml, bydd gwybod beth yw dogn Duw yn golygu agosáu ato, i ddarllen ei Air ac ymlid ei bresenoldeb. Sut mae pethau’n mynd gyda thi heddiw?
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Everything I Need

Mae Duw wedi mynd o'n blaen ac mae'n ein hamddiffyn o'r ôl. Mae e wedi delio gydag ein brwydrau eisoes. Mae e'n amddiffyn yr ochr gudd. Dydy digwyddiadau annisgwyl ddim yn peri syndod iddo. Bydd y defosiwn 3 diwrnod manw...

More

Hoffem ddiolch i Holly Magnuson am ddarparu'r Cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.hollymagnusonco.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd