Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Popeth dw i ei AngenSampl

Everything I Need

DYDD 1 O 3

Popeth dw i ei Angen: Fy Nogn i:






blockquote>“Pam ddylwn i deimlo’n ddigalon, pam ddylai’r cysgodion ddod,
Pam ddylai fy nghalon fod yn unig, a hiraethu am nefoedd ac adref;

Pan mai Iesu yw fy nogn, ef yw fy ffrind cyson.

Mae ei lygad e ar aderyn y to, a dw i’n gwybod ei fod yn fy ngwylio.

Dw i’n canu am fy mod yn hapus, a dw i’n canu am fy mod yn rhydd.

Mae ei lygad e ar aderyn y to, a dw i’n gwybod ei fod yn gofalu amdanaf i.

-Civilla D. Martin, 1905




Dwn i ddim amdanat ti, ond mae’r gair dogn wedi’i andwyo imi gan yr amrywiaeth o hysbysebion Colli Pwysau sydd wedi cylchdroi drwy’r degawdau. Dogn = bwyd. Dogn = deiet. Mae dogn yn dangos bywyd o dameidiau bach imi, o gael fy amddifadu. Mae’n golygu cyfyngu, gwadu i fi fy hun y bowlen o hufen iâ, neu orfod stopio’n o flaen llaw ar ôl un tamaid pleserus o gacen siocled hynod o flasus. Mae dogn yn golygu cael darn llai o rywbeth dw i ei eisiau’n fawr iawn. Mae’n golygu bod rhaid imi stopio’n brin o’r hyn dw i eisiau go iawn, ac yn y pen draw fydda i ddim wedi fy nigoni.



Os dw i’n dweud “dogn,” rwyt ti’n dweud… Rheolaeth!



Ys gwn i os mai dyna sut wnaeth Civilla Martin feddwl Am y gair dogn pan sgwennodd geiriau’r gân hyfryd honno am gwpl Cristnogol, oedd wedi’u llethu gan anhwylderau corfforol, yn byw bywydau hapus yn gorlifo mewn ffydd? (Chwilia am y gân ar gyfer y cefndir diddorol!) Dw i’n reit siŵr nad oedd hi’n meddwl am gyfyngu, fel dŷn ni’n meddwl am gyfyngu ar siwgr neu garbohydradau'r dyddiau hyn. Mae’r deiets fad a’r meddylfryd o ddogni yn arferiad eithaf diweddar yn ein diwylliant o ormodedd ac ymbleseru.



Ar droad y ganrif doedd ryseitiau Cheetos a Cinnabon ddim ar gael. Doedd yna ddim bwyd cyflym, ac roedd coginio tarten afal yn orchwyl tipyn mwy llafurus na’r rhwyddineb o agor bocs o does parod, ei rolio allan, a thorri siapiau bach del i’w gosod ar y darten. O feddwl am y peth, roedd coginio tarten yn 1905 yn fwy gwerthfawr ac yn cael ei fwynhau gymaint mwy gan deulu a ffrindiau wrth y bwrdd bwyd nac yw meddwl am fwyta tarten heddiw. Wedi’r cyfan, mae’n hawdd iawn rhedeg i’r siop leol a phrynu un ar amrantiad!



Yn ei hanfod, ystyr gair dogn yw mesuriad. Mesuriad perffaith, nid mesuriad diffygiol. Mesuriad sy’n unigryw i ni...a neb arall. Mae e'r union fesuriad o rywbeth dŷn ni ei angen. Diffiniad cyffredin o ddogn yw “siâr unigolyn o rywbeth: fel siâr o rywbeth a dderbynnir fel anrheg neu etifeddiaeth.”



Rhodd, etifeddiaeth - rhywbeth na allem ei ennill, ond anrhydedd dŷn ni’n ei dderbyn, yn unig, drwy gael ein mabwysiadu i mewn i deulu Duw fel mab neu ferch. Iesu yw ein dogn. Ein siâr o ddaioni. Ein hetifeddiaeth deuluol gyda holl freintiau a theitlau o fab neu ferch.



Mae Salm 16 adnod 5 i 6 (beibl.net) yn dweud, “Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau. Mae fy nyfodol i yn dy law di. Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi; mae gen i etifeddiaeth hyfryd.” Mae gynnon ni etifeddiaeth dda am fod Duw’n dda. Mae gynnon ni ddogn, mesur perffaith wedi’i #neilltuo i ni sy’n ein cadw’n ddiogel, ein cynnal, sy’n ein galluogi i hedfan uwchben y storm ac ymladd brwydrau ar Ei ffyddlondeb cyson a chryfder. Ei ddogn a'i fesur ef i ni yw’r rhodd berffaith dŷn ni gymaint o’i hangen yn y bywyd hwn.






Myfyrio:




  • Pan wyt ti’n meddwl am y gair dogn, wyt ti’n meddwl am gael digon o rhywbeth, neu dy fod ar dy golled? Wyt ti’n teimlo dy fod wedi dy ddigoni y funud hon? Pam neu pam ddim? (Ti’n deall nad ydw i’n sôn am fwyd yn y fan yma!)

  • Wyt ti erioed wedi gofyn i Dduw beth ydy dy ddogn unigryw ar hyn o bryd? Os wyt ti heb, gwna hynny nawr. Gofyn iddo ddatgelu unrhyw beth sy’n rhwystr i’r ddogn.

    Bydd yn hyderus.Mae Duw’n ffyddlon!

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Everything I Need

Mae Duw wedi mynd o'n blaen ac mae'n ein hamddiffyn o'r ôl. Mae e wedi delio gydag ein brwydrau eisoes. Mae e'n amddiffyn yr ochr gudd. Dydy digwyddiadau annisgwyl ddim yn peri syndod iddo. Bydd y defosiwn 3 diwrnod manw...

More

Hoffem ddiolch i Holly Magnuson am ddarparu'r Cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.hollymagnusonco.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd