Ceisio Duw TrwyddoSampl

Mae angen amser tawel arnom ni – dim ond ni a Duw. Yn ystod y cyfnod hwn dylem fod yn astudio ei air, gweddïo, ac addoli. Dydy rhain ddim yn bethau y mae "pobl eglwys yn ei wneud" neu'n "fandadau crefyddol" trwyadl ond dyma'r cyfle i ddod i adnabod Duw go iawn
Dw i am roi pwyslais ar y cyfle oherwydd mae bob amser yn fraint dod i'w adnabod.
Meddylia am y peth.
Mae'n gwybod pob peth. Mae yn deall pob peth. Y mae ei ddoethineb yn FAWR. Yn ei bresenoldeb e’n unig y mae perffaith heddwch, cyfanrwydd, a thangnefedd. Felly beth am dreulio amser gyda'r Un sy'n darparu ein hangen mwyaf, sef heddwch?
Bydd amser di-dor gyda Duw o ddydd i ddydd yn newid ein bywydau. Gallwn fod fel Iesu ar y cwch, yn cysgu tra bod problemau'n codi o'n cwmpas..
Treulia amser pwrpasol gyda Duw heddiw. Rho dro ar gynyddu'r amser a dreuliwyd gen ti yn ystod y tridiau diwethaf. Tala sylw i sut mae dy feddwl a'th heddwch mewnol yn newid!
Diwrnod 7:
- Gweddïa ac addola heb ymyrraeth.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.
More