Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio Duw TrwyddoSampl

Seek God Through It

DYDD 5 O 10

Wyt ti erioed wedi gorfod gyrru drwy law trwm neu niwl trwchus? Roedd yn rhaid i ti fynd yn dy flaen nes i ti gyrraedd pen dy daith. Roedd y glaw a'r niwl yn rhwystro dy olwg i weld i ble'r oeddet ti'n mynd. Weithiau, byddi’n stopio nes bydd y storm neu'r niwl yn cilio.

Wrth geisio Duw, bydd yn rhaid inni bwyso trwy rwystrau meddyliol ac weithiau corfforol. Mae ceisio Duw yn batrwm y mae'n rhaid ei ffurfio a'i adeiladu. Nid ein hymateb cynhenid ni ydyw.

Mae gan drawma ffordd o’n dallu ni rhag ceisio Duw oherwydd y cyfan dŷn ni’n ei weld fel arfer yw ein poen. Teimlwn y gofynion allanol gan deulu a ffrindiau. Teimlwn ein bod yn fewnol yn chwalu o dan bwysau ein cyfrifoldebau a'n realiti.

Mae’r rhain i gyd yn rhwystrau meddwl y mae’n rhaid inni wthio drwyddyn nhw, yn union fel y fenyw â’r gwaedlif a wthiodd drwy’r dyrfa. Mae'r dorf nid yn unig yn rhwystr corfforol ond yn un meddyliol. Mae'n rhaid i ni ddal ati trwy bob hunan-amheuaeth, amheuon Duw, beth-os, pam fi, a mwy, dim ond i gyrraedd y lle o adferiad a chyfanrwydd a ddarperir gan Iesu. Os yw ein meddwl yn aros yn nhywyllwch ein sefyllfa, sut y gwelwn ni byth y goleuni?

Roedd y wraig hon yn gwybod y byddai'n iach wrth gyffwrdd â Iesu trwy ffydd. Nid oedd gwthio drwy'r dorf yn ddigon. Mynediad i'w bresenoldeb a'i gyffwrdd ag e, trwy ffydd, a'i gwnaeth hi yn gyfan

Trwy geisio Iesu a dod i mewn i'w bresenoldeb, gallwn ninnau hefyd gael adferiad.

Diwrnod 5:

  • Gweddïa ac addola.

Am y Cynllun hwn

Seek God Through It

Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.

More

Hoffem ddiolch i Brionna Nijah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.brionnanijah.com