Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dechrau EtoSampl

Begin Again

DYDD 4 O 7

Gras Duw: Ei Law Estynedig

Tybed sut oedd hi’n teimlo: wedi’i llethu gan gywilydd a gwarth wedi’i gymysgu efo chydig o ddicter, brad ac euogrwydd – a’r syniad o farwolaeth oedd i ddod. Falle y byddai'n well gan y fenyw a ddaliwyd mewn godineb farwolaeth yn hytrach na'r cywilydd mwy yr oedd ar fin ei wynebu gerbron y cyhoedd.

Roedd hi’n ymddangos nad oedd yna neb am ei helpu.

Ond wrth i ddisgwyl mewn ofn am y cerrig i’w tharo, wnaeth ddim un ei tharo. Roedd yn sicr bod yr arweinwyr crefyddol am ei llabyddio i farwolaeth.

“Os oes un ohonoch chi ddynion erioed wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi” (adnod 7). Roedd Iesu wedi gosod sialens rheiny oedd eisiau gweithredu’r ddedfryd o farwolaeth, ac roedd yn sialens i’w sobri – i rai oedd run mor bechadurus.
Tra roedden nhw’n eiddgar i weithredu’r ddedfryd o farwolaeth ar sail pechod difrifol y wraig, doedd yr Arglwydd heb orffen gyda hi. Yn wir, roedd eisiau rhoi dechrau newydd iddi. ““Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto” (adnod 11).

Wyt ti erioed wedi teimlo bod bywyd wedi rhoi'r gorau arnat ti a thithau wedi rhoi'r gorau ar fywyd? Ar ôl yr holl droadau anghywir, dewisiadau annoeth a phechadurus sydd wedi bron costio dy ddyfodol a’th fywyd, dydy Duw heb orffen gyda thi. Na, yn lle, mae Duw eisiau rhoi dechrau newydd i ti.
Mae Duw’n dy weld ac yn dy adnabod mor dda. Mae yn dy garu’n greiddiol. Tyrd at Iesu fel wyt ti. Gras Duw yw’r llaw estynedig mae’n ei gynnig i ti, i'th alluogi i wynebu bywyd unwaith eto - gydag e tro yma.

Ysgrythur

Dydy rhai darnau o’r Ysgrythur ddim ar gael yn dy fersiwn gyfredol o’r Beibl.

Am y Cynllun hwn

Begin Again

Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, gan greu i ti ddechreuad newydd. Onid wyt ti'n caru dechreuadau newydd! Jest hoffa'r cynllun darllen hwn. Mwynha!

More

Hoffem ddiolch i Mr Boris Joaquin, Llywydd a Phrif Swyddog Offer, Breakthrough Leadership Management Consultancy Mae e’n hyfforddwr penigamp ac yn siaradwr heb ei ail ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a sgiliau ysgafn eraill yn y Pilipinas. Gyda’i wraig, Michelle Joaquin, cyfrannodd i’r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: