Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dechrau EtoSampl

Begin Again

DYDD 1 O 7

Dechreuad Newydd



Dw i wrth fy modd pan ddaw blwyddyn newydd. Yn union fel dw i wrth fy modd yn gweld y wawr ar ddiwrnod newydd. Dw i’n credu fod Duw wedi creu'r symudiad hwn i’n hatgoffa ni mai e yw Duw'r Dechreuadau Newydd.



Gall Duw greu rhywbeth o ddim byd. Fel jariau o glai gall e siapio rhywbeth o lwmp di-lun. Gall e gymryd dy galon doredig, aflan a drygionus, a’i throi’n galon pur a phwrpasol - ei gwneud yn gyfan eto!



Fel yn Genesis ble mae Duw’n siarad i mewn i anhrefn gwag i greu’r bydysawd, sêr, a’n byd, daeth Duw a’n byd i fodolaeth drwy siarad. Gall Duw siarad i mewn i dywyllwch dy fywyd hefyd, a chreu i ti ddechrau newydd.



Yn y dyddiau nesaf, gad i mi dy arwain drwy astudiaeth o bobl sydd wedi ildio eu hanhrefn i Dduw. Bellach dydyn nhw ddim wedi’i rheoli gan ddigwyddiadau, amgylchiadau, na theimladau. Maen nhw’n cydnabod mai’r unig ffordd i gael yr atebion cywir, bywyd go iawn, llechen lân a dechreuad newydd yw, drwy Fab Duw, Iesu Grist (Darllena 1 Corinthiaid, pennod 1, adnod 30).



Hyd yn oed nawr, gall e siarad i mewn i anhrefn dy fywyd i roi gobaith newydd, egni newydd.



Darllena Salm, adnod 10. Mae Duw eisiau dy weld yn bur, felly Mae e eisiau rôl weithredol o greu calon newydd i ti a dod â threfn i anhrefn dy fywyd. Y cwbl sydd raid i ti ei wneud yw darostwng dy hun o’i flaen ac ildio i’w sofraniaeth.



Dweda, “Crea ynddo i galon bur, O Dduw, ac adnewydda ysbryd ffyddlon o fy mewn.” Gweddïa, “ Dduw, gwna ddechreuad enwyd yn fy mywyd caniatâ fi i ddechrau o’r newydd.”



Dw i wrth fy modd gyda dechreuadau newydd! Jest hoffa’r cynllun darllen hwn. Mwynha!
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Begin Again

Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, g...

More

Hoffem ddiolch i Mr Boris Joaquin, Llywydd a Phrif Swyddog Offer, Breakthrough Leadership Management Consultancy Mae e’n hyfforddwr penigamp ac yn siaradwr heb ei ail ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a sgiliau ysgafn eraill yn y Pilipinas. Gyda’i wraig, Michelle Joaquin, cyfrannodd i’r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd