Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gweddïau PeryglusSampl

Dangerous Prayers

DYDD 6 O 7

Anfon Fi


Fel gweinidog, am ddegawdau dw i wedi clywed, ar sawl achlysur, ceisiadau gweddi dyfnaf rhai miloedd o bobl. bob wythnos, mae cannoedd o geisiadau gweddi'n boddi ein heglwys, i alwadau ffôn yn ystod yr wythnos a cheisiadau ar-lein, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, neu ar ap ein heglwys. Felly, fydd e ddim yn syndod i ti mai'r frawddeg hyfrytaf dw i'n falch o'i chyflawni yw, "Fel ein gweinidog wnei di weddïo dros...?


Dw i'n ei hystyried hi'n fraint, ac yn anrhydedd a chyfrifoldeb llawen i oedi a gosod dy angen gerbron gorsedd Duw, gan ofyn iddo am dosturi, i symud, i arwain, i ddarparu, i weithredu, i gyflawni gwyrth dros bobl dw i'n eu hadnabod a charu. Bob wythnos mae rywun yn gofyn i Dduw iachau rywun mae nhw'n eu caru o gancr, i helpu cymydog i ddod o hyd i swydd, neu adnewyddu priodas sydd mewn trafferthion. Mae myfyrwyr yn gofyn am ateb i weddi i gael mynd i goleg o'u dewis, i helpu talu am y coleg hwnnw, neu am help i ddelio gyda poen ysgariad eu rhieni. Mae rhai pobl yn gweddïo am gymar. Mae eraill yn gofyn am help i faddau i rywun am eu brifo.


Er bod y ceisiadau'n amrywio, mae pobl yn gofyn i Dduw wneud rywbeth drostyn nhw neu rywun mae nhw'n eu caru. Dduw, helpa fi, helpa rywun dw i'n eu caru. Arglwydd dw i eisiau...Dad, plîs, a fyddet ti'n...?


Dduw, gwna rywbeth drosta i.


Plîs gwranda arna i...fe ddylen ni weddïo fel hyn. Dylen ni wastad wahodd presenoldeb Duw, grym Duw. heddwch Duw i ymyrryd yn ein bywydau. Dylen ni ofyn i Dduw gyflawni gwyrthiau drosom ni. Dylen ni gyflwyno'r rhai dŷn ni'n eu caru ac atgoffa ein hunain sut y gall Duw symud yn eu bywydau. Dylen ni geisio'r Arglwydd am ein holl hanghenion.


Ond ddylen ni ddim stopio'n y fan yna.


Yn lle gofyn i Dduw wneud rywbeth drosom ni beth pe baem yn gweddïo gweddi beryglus, gweddi o hunan-wadiad ac argaeledd i'n tad nefol?


Beth pe baen ni'n gweddïo'r weddi mwyaf peryglus?


"Arglwydd, anfon fi, defnyddia fi."


Gweddïodd Eseia weddi agored tebyg o'i argaeledd ym mhresenoldeb Duw. Mae proffwyd yr Hen Destament yn ailadrodd hanes cyfarfod yr Un Sanctaidd, pan ofynnodd Duw, "Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?" (Eseia, pennod 6, adnod 8a). heb wybod y manylion, heb wybod pryd na ble, gweddïodd Eseia y weddi syfrdanol hon, a allai newid bywyd: "Dyma fi; anfon fi" (Eseia, pennod 6, adnod 8b).


Sylwa, na wnaeth Eseia ofyn am fanylion. Wnaeth e ddim gofyn i Dduw, ble, na phryd, na beth fyddai'n digwydd. Dyna pam y gall y weddi hon deimlo mor beryglus.

"Dduw, anfon fi. defnyddia fi. Dw i ddim yn gofyn am fanylion. Dw i ddim angen gwybod beth yw'r buddiannau. Neu, os bydd hi'n haws ai peidio. Neu, os bydda i'n ei fwynhau. Oherwydd yr un wyt ti - fy Nuw, fy Mrenin, fy Ngwaredwr - dw i'n dy drystio di. Am dy fod yn sofran dros y bydysawd dw i'n ildio fy ewyllys i ti, pob rhan ohonof fi fy hun. Cymer fy meddwl, fy llygaid, fy ngheg, fy nghlustiau, fy nghalon, fy nwylo, a fy nhraed ac arwain fi tuag at dy ewyllys. Dw i'n dy drystio. Dduw, fy ateb yw, 'Gwnaf'. Nawr, beth yw'r cwestiwn?"


Dychmyga pe byddet ti'n gweddïo fel hyn. Wyt ti wedi blino ar weddïau saff? Wyt ti wedi blino byw am bethau dibwys? Wyt ti'n dirmygu Cristnogaeth llugoer, di-galon? Felly, gweddïa'r weddi beryglus.


Dyma fi, Arglwydd.


Anfon Fi.


Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Dangerous Prayers

Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i l...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd