Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gweddïau PeryglusSampl

Dangerous Prayers

DYDD 3 O 7

Chwilia Fi



Wyt ti'n meiddio gweddïo mewn ffordd dwyt ti heb weddïo o'r blaen?



Gyda'th holl galon, enaid, meddwl, a hyd eithaf dy fodolaeth? Beth fyddai'n digwydd yn dy fywyd fi a bywydau'r rhai o'th gwmpas pe byddet ti'n dechrau gweddïo gweddïau peryglus?


Wyt ti'n meiddio darganfod?


Cyhuddodd y Brenin Saul, Dafydd ar gam o frad ac anfonodd ei luoedd llawn a cheisio'i ladd sawl tro. Roedd Dafydd eisiau plesio Duw gyda'i holl galon. Brwydrodd yn erbyn ei ddicter er mwyn amddiffyn a dangos anrhydedd i'r brenin. Ac eto gan wybod nad oedd ei gymhellion bob amser yn berffaith, ildiodd David ei galon gerbron Duw a gweddïodd ar un o'r gweddïau mwyaf bregus, tryloyw a pheryglus y byddet ti fyth yn ei chlywed. O fod eisiau anrhydeddu Duw ym mhob agwedd ar ei fod, gweddïodd Dafydd, "Archwilia fi, O Dduw, i weld beth sydd ar fy meddwl; Treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni. Edrych i weld a ydw i'n gwneud rhywbeth o'i le, ac arwain fi ar hyd yr hen lwybr" (Salm 139, adnodau 23 i 24).


Nid yn unig y mae’r weddi hon yn anodd i'w gweddïo, ond mae hyd yn oed yn fwy heriol ei chymhwyso a gweithredu arni. Oherwydd os oes gennyt y dewrder i weddïo, yna bydd angen i ti arfer y dewrder i fyw'r hyn y mae Duw yn ei ddangos i ti mewn ymateb. Felly paid â'i weddïo os nad wyt yn ei olygu.


Dyma rybudd rhag-blaen i ti. Mae'r gallu gan y weddi hon i'th ddyfarnu. I'th gywiro. I ailgyfeirio dy fywyd. I newid y ffordd rwyt yn gweld dy hun. I newid y ffordd y mae eraill yn dy weld.


Efallai dy fod yn dal i feddwl nad yw hynny fawr o bwys. O bosib rwyt ti'n pendroni pam y dylai Duw chwilio dy galon pan mae e'n gwybod beth sydd i mewn yna. Rwyt yn gwybod beth sydd yna.


Mae e'n gwybod beth sydd yna. Felly, pam gofyn rywbeth sydd mor amlwg?


Dyma ble mae pethau'n anodd. Ar yr wyneb mae'n ymddangos fel pe baem ni'n adnabod ein calonnau ni ein hunain

Dyma ble mae pethau'n anodd. Ar yr wyneb mae'n ymddangos fel pe baem ni'n adnabod ein calonnau ni ein hunain. Wyt ti'n cytuno? Dw i'n gwybod fy nghymhellion. Dw i'n gwybod beth sydd bwysicaf. Dw i'n gwybod pam fy mod i'n gwneud yr hyn dw i'n ei wneud. Heblaw am hynny, falle y byddet ti'n dweud wrthot ti dy hun, " Mae gen i galon dda, dw i ddim yn ceisio brifo neb. dw i eisiau gwneud beth sy'n iawn. Mae fy nghalon yn dda. Onid ydw i'n gweddïo?


Ond mae Gair Duw'n datgelu'n union i'r gwrthwyneb. Falle y bydd yn sioc pan fyddi'n ei glywed am y tro cyntaf, ond mae Jeremeia'n datgelu'r gwir go iawn. Roedd Jeremeia yn fab i offeiriad anwyd tua 650. C.C. Yn ystod teyrnasiad y Brenin Joseia, cododd Duw y proffwyd ifanc hwn i fynd â Gair Duw at Israel a’r cenhedloedd. Mae Jeremeia yn dweud nad oes gen ti - ynghyd â mi a phawb arall - galon dda. Mewn gwirionedd, nid yw dy galon dda, ond mae'n annuwiol a phechadurus ym mhob ffordd. Dwedodd y proffwyd, "Oes rhywun yn deall y galon ddynol? Mae'n fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni" (Jeremeia, pennod 17, adnod 9 beibl.net).


Heb Grist, mae dy galon yn dwyllodrus. Po agosaf dŷn ni'n agosáu at Iesu, y mwyaf y mae'n rhaid i ni wynebu ein diffygion. Balchder. Hunanoldeb. Chwant. Caethiwed. Ysbryd beirniadol.


Gall gweddïo'r weddi beryglus hon agor sianel at Dduw. n lle dim ond gofyn i Dduw wneud rhywbeth i ti, gofynna iddo ddatgelu rywbeth ynot ti. Falle na fydd y foment hon o wirionedd gyda Duw yn dy newid ar unwaith, ond bydd yn dy helpu i gydnabod dy angen ysbrydol ac ailgyfeirio dy fywyd.


Dyna pam fod y weddi hon gan Dafydd yn wirion o beryglus.


"Archwilia fi, O Dduw."


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Dangerous Prayers

Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i l...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd