Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn Bryderus am DdimSampl

Anxious For Nothing

DYDD 7 O 7

Falle bod un o’r storïau hynny wedi cyffwrdd â thi. Neu falle fod dy stori di gyda phryder yn hollol wahanol. Ond, waeth beth yw’r frwydr rwyt yn ei wynebu gyda phryder, mae’r un Ysbryd gododd Iesu o farw’n fyw, yn byw ynot ti. A wnaeth e ddim rhoi ysbryd o ofn i ti.


Dydy hynny ddim yn golygu os wyt ti’n stryglo gyda phryder nad oes gen ti ddigon o ffydd. Dydy e ddim yn golygu nad wyt ti’n trystio Duw ddigon. I ddweud y gwir, beth os mai pryder yw’r peth hwnnw sy’n dy ddysgu i ddibynnu a thrystio Duw? A allasai pryder fod yn gatalydd i dy ddenu yn agosach at Dduw?


Mae pryder yn troi’n rhodd pan mae’n ein helpu i ddibynnu ar Dduw. Dydy hynny ddim yn golygu ein bod yn stopio chwilio am help neu obaith. Mae’n golygu ein bod yn gwybod ei fod yn golygu bod mynd ar ôl heddwch yn broses.


Felly, a yw’n bosib go iawn i fyw’n bryderus am ddim? Ydy. Dydy hynny ddim yn golygu na fydd yna fyth rhywbeth i bryderu amdano. Ond oherwydd Iesu, gallwn fyw’n bryderus am ddim. hyd yn oed pan nad oes yna ddim byd i fod yn bryderus amdano - nid drwy ein hymdrechion ond drwy ei bresenoldeb. Cymer olwg ar yr adno0dau hyn eto:


” Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi - y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg - yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu” Philipiaid, pennod 4, adnodau 6 i 7 beibl.net


Myfyria ar y gwirionedd yma. Dŷn ni’n aml yn hoelio’n sylw ar y gair “heddwch,” ond mae’n dweud, “heddwch Duw.” Mae hedwch go iawn i’w gael, yn unig, ym mhresenoldeb Duw. Felly, beth os mai’r ateb i bryder yw, nid llai o straen, ond mwy o Dduw?


Ystyria: Sut alla i wahodd presenoldeb a heddwch Duw yn fwy rheolaidd i mewn i'm mywyd?


Gweddïa:Arglwydd, diolch i ti am dy bresenoldeb cyson. Dw i’n dod atat ti heddiw ar gyfer heddwch y gelli di, yn unig, ei ddarparu. Dw i eisiau mwy ohonot ti. Dw i’n dy wahodd i bob rhan o fy mywyd. Helpa fi i ddibynnu arnat ti’n llawnach heddiw. Dw i’n rhoi i ti fy holl boenau ac ofnau. Helpa fi i fyw’n ddibryder drwy ddibynnu arnat ti. Dw i’n dy drystio di. Dw i’n rhoi fy hun yn gyfan gwbl i ti. Yn enw Iesu, Amen.


Os wyt ti’n stryglo gyda phryder, neu rywun rwyt yn ei garu, mae yna help a gobaith ar gael. Dysga mwy am sut mae pryder yn gallu edrych, sut i ddelio ag e, a sut i helpu eraill sy’n stryglo. .


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Anxious For Nothing

Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd