Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn Bryderus am DdimSampl

Anxious For Nothing

DYDD 5 O 7

Wyt ti fyth yn teimlo’n euog am fod yn Gristion sydd ddim yn “bryderus am ddim”? Ydy bod a phryder yn rhoi mwy o bryder i ti am dy fod yn teimlo na ddylet ti fod yn ei deimlo? Roedd Lori yn yr un cwch nes iddi ddarganfod un peth newidiodd bopeth.



Roedd fy mhriodas yn draed moch. Roi’n i’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb o fagu’r plant, y ddau ohonyn nhw’n eu harddegau, (Arglwydd, helpa fi!) ar ben fy hun. Gweithio, coginio, glanhau, rhannu car, trwsio, cyllido, cefnogi, caru, darparu - roedd y cwbl yn syrthio arnaf i. Roedd fy mhryder drwy’r to a do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud amdano.



Ro’n i’n trio poeth allwn i feddwl amdano: cael cyngor, myfyrio, cerddoriaeth, ymarfer corff, darllen yr Ysgrythur, popeth posib! Doedd dim i’w weld yn cael gwared arno. Paid â fy nghamddeall i, roedd e’n help i wneud y pethau hyn. Dysgais i ddefnyddio ‘r arfau roedd arnaf ei angen i ganolbwyntio ar Grist eto. Ond ro’n i’n dal i stryglo. O edrych yn ôl, un peth doeddwn i ddim yn ei wneud oedd “peidio trio.”


Os wyt ti’n chwilio’r Ysgrythur, ddoi di ar draws llwythi o adnodau ar boeni. Dw i’n gwybod achos o’n i’n chwilio am fformiwla hudol i’m helpu i’w drechu unwaith ac am byth. Wrth chwilio dois i ar draws rhywbeth annisgwyl. Rhaid i ti dalu sylw i’w weld, ond yn yr adnodau hyn mae yna gyfarwyddiadau gan y Tad i ymddiried yn llwyr a gwneud dim. Dw i o ddifrif - dim.



Yn Mathew pennod 11, adnod 28 beibl.net, mae Iesu’n dweud, “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi.” Mae e’n gwneud y gwaith yma, nid ni. Dod ato yw’r cwbl sydd angen i ni wneud.


Yn Ioan, pennod 14, adnod 27 beibl.net, mae e’n dweud, “Heddwch - dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi...”



Ac eto yn Mathew, pennod 6, adnodau 25 i 34 beibl.Net, mae’r darn enwog yma’n dweud wrthon ni i beidio poeni am fod Duw “yn gofalu fel yna am flodau gwyllt,” felly faint yn fwy y gwneith e ofalu amdanon ni? Dwedir wrthon ni i “Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau...wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd.” Dyna fo - wnest ti ddeall hynny? Ei roi!



Mae Duw’n un sy’n rhoi. Mae ganddo e’r atebion, ac mae’n gefn i ni. Mae yna rai pethau na fedrwn ni wneud ein hunain, ond dyna’n union fel gwnaeth e ei gynllunio. Fel ein bod ni ei angen.



Roedd yr holl bethau hynny roeddwn i'n poeni amdanyn nhw wedi gweithio allan, un ffordd neu'r llall. Dim ond ar ôl imi anadlu’n ddwfn, dod go iawn at Iesu, tawelu, gollwng gafael ar bopeth, ddwedes i wrth Dduw mod i’n ei drystio’n llwyr - ac yna dysgu i wneud dim - a ffeindio heddwch o’r diwedd. Yn y pendraw, trodd fy ngweddïau i fod yn llai am fy sefyllfa ac yn fwy am sut ro’n i’n ei drystio



Os wyt ti angen gwneud yr un peth. Dw i’n dy annog yn gryf iawn i orffwys ynddo e. Fedri di ei drystio. Dyma dw i’n ei weddïo pan dw i’n teimlo mod i wedi fy llethu gan bryder eto:



Annwyl Arglwydd,



Dw i’n dod atat ti i ofyn am help. Ti yw fy mhopeth. Dw i angen gorffwys. Dw i’n rhoi i ti fy mhryder. Cymer e, Arglwydd. Dw i’n derbyn dy heddwch, cariad a’th dosturi. Helpa fi i droi atat ti ac nid ataf fy hun. Helpa fi i stopio gwneud a dechrau trystio. Helpa fi i ddisgwyl ar dy atebion, dw i’n gwybod eu bod yn dda. Rho i mi ddoethineb, gobaith a heddwch. Diolch, Arglwydd am dy amynedd a’th ras. Dw i’n dy garu, a dw i’n gwybod dy fod yn fy ngharu i gymaint na allwn i ei amgyffred.



Amen.



-Lori


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Anxious For Nothing

Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd