Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl

Six Steps To Your Best Leadership

DYDD 6 O 7

Risg sydd Raid i ti ei Gymryd



Pa un ai os wyt ti yn dy arddegau, yn y coleg, yn bell i mewn dy yrfa, neu wedi ymddeol, nawr yw'r amser gorau i gymryd risg. Cymra risgiau pan rwyt ti'n tyfu ac yn dirywio. Does neb yn cyflawni dim drwy chwarae'n ddiogel



Dydw i ddim yn dweud wrthot ti i gymryd risg ar y pethau anghywir. Paid risgio perthynas dda ag eraill, paid risgio dy iechyd, a phaid â peryglu'r hyn sy'n gweithio'n dda. Ond pa theori sydd gen ti? Beth sy'n mynd drwy dy feddwl? Beth yw'r cymhelliad dwfn sydd o'th fewn? Cymer risg mewn ffydd.



Dw i'n hoff o beth ddwedodd y cyn-arlywydd, Jimmy Carter

, "Dos ati a mentro, dyna ble mae'r ffrwyth."



Mae'n siŵr dy fod wedi clywed am y dyn cyfoethog ond anonest mae sôn amdano yn y Beibl aeth allan a mentro dim on er mwyn cael cipolwg ar Iesu. Roedd ganddo enw am fod yn tipyn o siarc ariannol fel y prif gasglwr trethi, ac wedi adeiladu ei gyfoeth ar hynny. Un diwrnod mentrodd a dringo coeden i weld Iesu. Gelodd Iesu Sacheus, gwadd ei hun i'w dŷ, a gweddnewidiodd bywyd Sacheus bron ar amrantiad i rywbeth gymaint cyfoethocach.



Os wyt ti eisiau aros fel wyt ti wedi bod erioed, gwneud beth rwyt wedi'i wneud erioed, Os wyt ti eisiau newid pwy wyt ti, newid beth wyt ti'n ei wneud. Mewn geiriau eraill, newid y ffrwyth yn dy fywyd, bydd rhaid i ti efallai, fentro.



Wyt ti angen dechrau sgwennu llyfr, gofyn i rhywun fynd allan efo ti, lansio project, dechrau gweinidogaeth, dechrau mynd i'r eglwys, dechrau podlediad, neu rywbeth arall? Ar sail beth mae Duw yn dy arwain i wneud, pa risg sydd raid i ti ei gymryd\/



Gweithreda:Dweda wrth rywun am dy fod yn gyfforddus gyda'r risg rwyt am ei gymryd. Yna, cymera'r cam cyntaf.


Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Six Steps To Your Best Leadership

Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, s...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd