Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Chwe Cam i dy Arweinyddiaeth OrauSampl

Six Steps To Your Best Leadership

DYDD 5 O 7

Perthynas i'w Roi Ar Waith



Wnaethon ni ddechrau'r astudiaeth Feiblaidd hon gan benderfynu rhoi y pwy cyn y gwneud. Os wyt ti eisiau newid pwy wyt ti, rwyt yn mynd i orfod newid efo pwy wyt ti.



Profodd yr apostol Paul, sy'n gyfrifol am sgwennu'r rhan fwyaf o'r Testament Newydd, un o'r newidiadau mwyaf dramatig mewn bywyd yn y Beibl. Roedd y newid yn ei fywyd mor epig fel y newidiodd ei enw o Saul i Paul.



Roedd Saul yn casáu Cristnogion ac eisiau gweld pob un yn marw. Carodd Paul, Gristnogion am weddill ei fywyd. Roedd Saul yn dirmygu dilynwyr Iesu a theithiodd yn bell i ddod o hyd iddyn nhw. Ar y ffordd wnaeth Paul gwrdd Iesu a theithiodd i hysbysu pobl amdano. Treuliodd Saul amser gyda phobl grefyddol yn ceiso gweithio ei ffordd at Dduw. Treuliodd Paul amser gyda phobl oedd wedi torri gan adael i Dduw weithio ynddo.



I ddechrau, fe wnaeth Paul gwrdd â Iesu, ddangosodd y golau iddo. Yna fe wnaeth e gyfarfod Ananias wnaeth ei helpu i ffeindio cryfder newydd yn glir (yn fewnol). Yna, fe wnaeth e gyfarfod Barnabas, gefnogodd a chyflwyno Paul i arweinwyr yr Eglwys pan oedden nhw'n ei ofni. Mae'r rhestr yn mynd yn ei flaen , a heddiw, Paul , mwy na thebyg, yw un o'r arweinwyr mwyaf effeithiol mewn hanes.



Fel Paul. efallai dy fod un berthynas i ffwrdd o newid dy dynged. Pan mae'n dod at dreulio amser gydag eraill, paid dim ond treulio amser gyda pobl sy'n gofyn, rho amser i bobl sydd yn dy 'mestyn, dy wthio, a hyd yn oed dy ddrysu.



Dysga oddi wrth Paul a chyfarfod gyda rywun sy'n dy feirniadu. Dŷn ni'n aml yn beirniadu beth dŷn ni ddim yn ei ddeall. Paid dim ond cyfarfod pobl o'r un oed â tri, o'r un gwaith, neu gyda profiadau tebyg. Wyt ti wedi dy ddal? ffeindia rywun sydd rai camau o'th falen. Os wyt ti'n 30, cwrdd â rywun sy'n 40 oed a gofyn iddyn nhw sut maen nhw'n meddwl yn wahanol nawr i sut wnaethon nhw yn 30.



Bydd yn barod i wrnado lot, gofyn cwestiynau mawr, a dilyn esiamplau da. Paid dim ond copïo eraill, ond dysga sut maen nhw'n meddwl.



Yn olaf, os nad wyt ti wedi rhoi ar waith perthynas gydag Iesu, efallai dy fod un cam i ffwrdd o newid cwrs dy dynged. Dw i'n gwybod fod hynny wedi bod yn wir imi. Y darn olaf o'r Gair heddiw yw disgrifiad Paul o beth all hynny edrych fel.



Siarada â Duw: Dduw, Ti'n gwybod sut un wnest ti fi i fod. Alli di ddangos imi pwy dw i fod i'w cwrdd? Rho imi y doethineb a'r nerth i fynd i'r afael â'r perthnasau cywir.



Gadf i ni wybod os wyt yn penderfynu rhoi ar waith berthynas gyda Duw.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Six Steps To Your Best Leadership

Wyt ti'n barod i dyfu fel arweinydd? Mae Caraig Groeschel yn dadbacio chwe cam Beiblaidd gall unrhyw un ei gymryd i fod yn arweinydd gwell. Tyrd o hyd i ddisgyblaeth i ddechrau, hyder i stopio, a pherson i'w awdurdodi, s...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a LifeChurch am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd