Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl

Finding God's Truth In The Storms Of Life

DYDD 9 O 10

Y Fuddugoliaeth dros Drasiedi

Pan fydd awdur yn eistedd i lawr i ysgrifennu nofel, mae eisoes yn gwybod sut y bydd y llyfr yn dod i ben. Mae'n gwybod y gwrthdaro mae'r prif gymeriadau yn mynd i'w wynebu a sut maen nhw'n mynd i'w goresgyn.

Mae'r un peth gyda Duw. Mae'n ysgrifennu dy stori, ac mae eisoes yn gwybod y diwedd. Weithiau, dŷn ni eisiau sgrechian, "Beth sy'n mynd i ddigwydd?" Dŷn ni am gael cipolwg ar y dudalen olaf. Heb y stori gyfan, dŷn ni'n ei chael hi'n anodd trystio bod pwrpas Duw ar gyfer ein problemau wir yn werth yr holl boen.

Mae Job yn enghraifft berffaith o rywun a oedd wedi drysu cymaint ynghylch pwrpas Duw ar gyfer ei ddioddefaint. Mae'n gweiddi ar Dduw yn ei rwystredigaeth, ac mae'n nesáu at anobaith lawer gwaith. Ond mae Duw yn atgoffa Job mai ei fwriadau a'i gynlluniau sydd drechaf bob amser. Er nad yw Duw byth yn dweud wrth Job beth yw pwrpas ei ddioddefaint, mae'n addo i Job mai fe sy'n dal i reoli.

Efallai na chawn glywed y stori fwy am sut mae ein dioddefaint yn gweithio yng nghynllun Duw. Ond dylem gael ein cysuro gan y wybodaeth fod Duw bob amser â phwrpas ar gyfer yr hyn yr ydym yn mynd drwyddo.

Gallwn aros yn amyneddgar am gynllun Duw pan fyddwn yn gwybod na fydd byth yn methu. Rhan fechan yn unig o'r stori ehangach am gariad Duw at y byd yw ein dioddefaint.

Gweddi: Annwyl Dduw, weithiau mae'n anodd i mi gael ffydd pan dw i ddim yn gallu gweld pwrpas yn fy nioddefaint. Rho amynedd i mi a helpa fi i drystio mai ti sydd bob amser yn rheoli. Diolch am dy gynllun perffaith ar gyfer y byd. Amen.

Am y Cynllun hwn

Finding God's Truth In The Storms Of Life

Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.

More

Hoffem ddiolch i Vernon Brewer, sylfaenydd World Help a Phrif Swyddog Gweithredol am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwt o wybodaeth dos i: https://www.worldhelp.net

Cynlluniau Tebyg