Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl

Heddwch, Cymorth, a Gobaith am Yfory
Rwyt ti wedi cyrraedd diwrnod olaf yr astudiaeth hon! Ac mae defosiwn heddiw yn ymwneud â'r peth pwysicaf un i unrhyw un ei gael wrth wynebu cyfnod anodd - gobaith.
Beth bynnag rwyt ti'n mynd drwyddo, mae Duw yn gwybod. Ac nid yw ei gariad at ei bobl byth yn methu. Mae'n gwylio drosot ti ar hyn o bryd. Mae ganddo ti bob amser yng nghledr ei law.
Waeth beth sy'n digwydd neu sut mae dy stori'n mynd, gelli di fod yn sicr nad wyt ti byth y tu allan i gynllun Duw.
A gelli orffwys o wybod na fydd dy Waredwr byth yn dy adael ar ben dy hun.
Mae Datguddiad 21:3-5 yn ein hatgoffa o’r gobaith anhygoel sydd gennym oherwydd Crist. Mae Duw wedi addo i ni le yn y nefoedd lle na fydd mwy o ddioddefaint na phoen, a lle bydd yn sychu pob deigryn o'n llygaid. Hyd yn oed nawr mae'n gwneud lle i ni yno. Mae e'n gwneud pob peth yn newydd!
Felly, ble bynnag yr wyt ti heddiw, cymera eiliad i bwyso ar y Gwaredwr na fydd byth yn dy adael na'th wrthod. Cymer gysur o wybod ei fod yn gweithio pob peth gyda'i gilydd er daioni. Bydd yn ffyddiog, waeth pa dreialon bynnag y byddi di’n eu wynebu yn y bywyd hwn, nad ydyn nhw hyd yn oed yn werth eu cymharu â'r llawenydd sy'n dy ddisgwyl.
Nid yw dy strygl byth yn rhy fawr i Dduw. Ac waeth pa mor anobeithiol rwyt t[‘n teimlo, mae gobaith mwy na'th anobaith. Dewisa fyw'r gwirionedd hwnnw heddiw.
Gweddi: Annwyl Dduw, diolch i ti am y wybodaeth sydd gennym dy fod yn gweithio pob peth er daioni. Diolch i ti, hyd yn oed pan fydd trafferthion y bywyd hwn yn fy llethu, dydyn nhw ddim yn fy niffinio. Diolch i ti fy mod yn gallu dod o hyd i fy hunaniaeth ynot ti ac yn y fuddugoliaeth dw i'n gwybod sy’n dod. Diolch am rodd bywyd tragwyddol gyda thi. Helpa fi i fyw mewn gobaith a llawenydd bob dydd fel dy blentyn. Amen.
Mae'r defosiwn hwn yn ddarn cydymaith i'r llyfr Why? Answers to Weather the Storms of Life. Os wyt ti'n chwilio am fwy o anogaeth Feiblaidd i'th helpu trwy dreialon, gelli di gael dy gopi o'r llyfr oyma .
Am y Cynllun hwn

Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.
More