Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 44 O 46

Dydd Sadwrn (Steve Thomason)

Mae’n rhaid bod dydd Sadwrn wedi bod yn ddydd hir a thywyll. Roedden nhw, nid yn unig yn cuddio mewn ofn o’u bywydau, ond hyd yn oed yn waeth byth, roedden nhw mewn galar dwfn. Roedd Iesu wedi mynd. Roedd ei ddisgyblion wedi gwylio’r milwyr yn ei gario i ffwrdd i’w ddienyddiad ddiwrnod yn gynt. Nawr, roedd hi’n ddydd Sadwrn, roedd eu meistr yn farw ac roedd y galar fel briw dwfn, wedi’u gadael yn hollol wag.

Nid dyma oedden nhw’n ei ddisgwyl. Roedd Iesu i fod yn Feseia. Roedd e i fod i’w harwain i fuddugoliaeth dros eu gormeswyr. Roedd e i fod i sefydlu Israel fel cenedl gref eto a chaniatáu iddyn nhw ymhyfrydu mewn llawenydd o gyfiawnder melys. Doedd poen, galar a thristwch ddim yn rhan o’r hyn oedd fod i ddigwydd.

Falle eich bod chi wedi teimlo fel y disgyblion ar y Sadwrn tywyll hwnnw. Dw i’n gwybod mod i wedi. Dros gyfnod o bymtheg mis yn fy mywyd, profais farwolaeth ffrind, dwy nain, fy nhad-yng-nghyfraith, yr eglwys roedden ni wedi’i phlannu, yn ogystal â phrofiad ar erchwyn marwolaeth chwaer-yng-nghyfraith a nith. Clatsh! Dyna ble ro’n i. Roedd hi’n ymddangos fod popeth o’m cwmpas yn marw. Nid dyma o’n i’n ddisgwyl. Ro’n i ‘n meddwl mai ffordd o fuddugoliaeth a heddwch oedd dilyn Iesu. Y cwbl o’n i’n ei deimlo oedd poen ac anobaith. I ddweud ro’n i wedi colli’r gallu i deimlo. Baswn i’n falch iawn o ddweud mod i wedi delio â’r peth gydag agwedd urddasol, gan nodio’n dawel a gwenu, gan ddyfynnu ystrydebau cryno am sofraniaeth Duw. Wnes i ddim. Fe wnes i fynd nôl a mlaen rhwng gwadu dideimlad ac amheuaeth gythryblus. Falle nad o’n i’n cyrraedd y nod. Falle fod Duw’n fy nghosbi am rywbeth. Falle fy mod i wedi cael fy nychanu ar hyd yr holl flynyddoedd hyn ac roedd y bydysawd mewn gwirionedd yn lle oer a gwag.

Mae’n rhaid imi feddwl fod gan y disgyblion deimladau tebyg ar y dydd Sadwrn tywyll hwnnw. Roedd hi’n ymddangos fod pob gobaith wedi mynd. Dŷn ni’n teimlo fel hyn am ein bod ni’n anghofio un gwirionedd pwysig. Ffordd o boen, galar a thristwch yw ffordd Iesu. Dioddefodd Iesu lawer yn ei fywyd - hyd yn oed cyn ei arestio a’i ddienyddio. Fel plentyn, gwyddai beth oedd cuddio yn Yr Aifft mewn ofn o’i fywyd. Gwyddai beth oedd colled drwy farwolaeth ei lystad, Joseff. Wylodd dros farwolaeth ei ffrind, Lasarus. Gweddïodd dros ddallineb trigolion Israel. Cynhyrfodd hyd at waed yng Ngardd Gethsemane. Gwaeddodd eiriau hynafiad Dafydd wrth iddo hongian ar y gros, “Fy Nuw! Fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?”

Ond fe ddwedodd Iesu wrthon ni mai fel hyn fydde hi. Yn fersiwn Ioan o ddysgeidiaeth olaf Iesu dwedodd Iesu y byddai Duw’n “llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni” {Ioan, pennod 15, adnodau 1 i 17). Mae tocio’n brifo. Nid yw cael rhannau helaeth o'th fywyd wedi'u gwahanu oddi wrthyt yn brofiad dymunol. Nid oes llawenydd yn y teimlad o wellaif yn torri i mewn i'th gnawd. Ac eto, fel y gŵyr y Garddwr Mawr, heb docio does dim bywyd.

Dyna yw ffordd Iesu - ffordd Duw o gariad a gras. Mae Duw’n ein puro gyda phoen. Dysgodd y disgyblion hyn a mynd ati i sgwennu at eglwysi am y peth. Dwedodd Iago y dylen ni ystyried profi treialon gwahanol fel llawenydd llwyr, oherwydd yn y pen draw mae e’n ein gwneud yn gyflawn a chryf. Dwedodd Pedr wrthym fod dioddef yn puro ein calonnau fel mae tân yn puro aur. Yna, fe wnaeth Paul, wrth iddo ddisgrifio'r broses boenus o weithio drwy erledigaeth, gyrraedd uchafbwynt y broses gyfan gydag un gair, gobaith.

O’r diwedd roedd dydd Sadwrn drosodd. Ar ddydd Sul daeth y disgyblion wyneb yn wyneb â gyda realiti sy’n ddyfnach na galar. Fe wnaethon nhw gwrdd â gobaith. Turiodd Iesu drwy boen a galar a dod allan tu draw i hynny’n fyw eto. Fe ddaw Sadyrnau. O hynny, y gelli fod yn sicr. Fe ddown nhw ac fe fyddan nhw’n boenus. Falle mai diwrnod fyddan nhw’n bara neu ugain mis. Pan fyddan nhw’n dod, cofia hyn - heb ddydd Sadwrn fedrwn ni ddim cael dydd Sul. Cariad Iesu yw ein gobaith ar gyfer heddiw ac am byth. Fe allwn alaru, ond gallwn alaru gyda gobaith.

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056