Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 42 O 46

Watchman Nee (China, 1903-1972)

Rhaid i Dduw ddod â ni i fan arbennig – fedra i ddim dweud sut y bydd pethau ond fe fydd yn gwneud hyn – ble, drwy brofiad tywyll a dwfn, bydd ein pŵer naturiol yn cael ei gyffwrdd ac yn y bôn yn cael ei wanhau, fel nad ydym yn meiddio trystio ein hunain. Mae e wedi gorfod delio efo rhai ohonon ni’n llym iawn, a’n cymryd drwy ffyrdd anodd a phoenus, i’n cael ni i’r lle iawn. Ond, wedyn, o leiaf, gall ddechrau ein defnyddio.

Fe hoffem ni gael marwolaeth ac atgyfodiad wedi’u gosod o fewn awr i’w gilydd. Fedrwn ni ddim wynebu’r ffaith y gall Duw ein cadw’n disgwyl am mor hir, gymaint na all wn ddisgwyl. A fedra i ddim dweud pa mor hir y bydd e’n cymryd, ond mewn egwyddor, dw i’n meddwl ei bod hi’n saff i ddweud y bydd e’n dy gadw di yna am amser penodol. Mae’r cyfan mewn tywyllwch, ond ddim ond am un noson. Rhaid iddo fod, yn wir, am un noson, ond dyna’r cyfan. Yn dilyn hyn fe fyddi’n darganfod fod y cwbl wedi’i roi nôl i ti mewn atgyfodiad gorfoleddus, a does dim all fesur y gwahaniaeth rhwng beth oedd o’r blaen a sydd yna nawr!

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056