Mathew 8:1-3
Mathew 8:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd. Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o’i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.” Dyma Iesu’n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A’r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!
Mathew 8:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddo ddod i lawr o'r mynydd dilynodd tyrfaoedd mawr ef. A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.
Mathew 8:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd.