Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8

8
Glanhau Dyn Gwahanglwyfus
Mc. 1:40–45; Lc. 5:12–16
1Wedi iddo ddod i lawr o'r mynydd dilynodd tyrfaoedd mawr ef. 2A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, “Syr, os mynni, gelli fy nglanhau.” 3Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf. 4Meddai Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”
Iacháu Gwas Canwriad
Lc. 7:1–10; In. 4:43–54
5Ar ôl iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth canwriad ato ac erfyn arno: 6“Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn y tŷ wedi ei barlysu, mewn poenau enbyd.” 7Dywedodd Iesu wrtho, “Fe ddof fi i'w iacháu.” 8Atebodd y canwriad, “Syr, nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho; ond dywed air yn unig, a chaiff fy ngwas ei iacháu. 9Oherwydd dyn sydd dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, ‘Dos’, ac fe â, ac wrth un arall, ‘Tyrd’, ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn’, ac fe'i gwna.” 10Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr. 11Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd. 12Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.” 13A dywedodd Iesu wrth y canwriad, “Dos ymaith; boed iti fel y credaist.” Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.
Iacháu Llawer
Mc. 1:29–34; Lc. 4:38–41
14Pan ddaeth i dŷ Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn. 15Fe gyffyrddodd â'i llaw, a gadawodd y dwymyn hi, ac fe gododd a dechrau gweini arno. 16Gyda'r nos daethant â llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac iacháu pawb oedd yn glaf; 17fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
“Ef a gymerodd ein gwendidau
ac a ddug ymaith ein clefydau.”
Rhai yn Dymuno Canlyn Iesu
Lc. 9:57–62
18Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw. 19Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, “Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei.” 20Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” 21Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” 22Ond meddai Iesu wrtho, “Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.”
Gostegu Storm
Mc. 4:35–41; Lc. 8:22–25
23Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef. 24A dyma storm fawr yn codi ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu. 25Daethant ato a'i ddeffro a dweud, “Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom.” 26A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr. 27Synnodd y bobl a dweud, “Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo.”
Iacháu'r Dynion oedd ym meddiant Cythreuliaid yn Gadara
Mc. 5:1–20; Lc. 8:26–39
28Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid#8:28 Yn ôl darlleniadau eraill, Gergeseniaid, neu, Geraseniaid., daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno. 29A dyma hwy'n gweiddi, “Beth sydd a fynni di â ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?” 30Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori. 31Ymbiliodd y cythreuliaid arno, “Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch.” 32Meddai ef wrthynt, “Ewch.” Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r môr, a threngi yn y dyfroedd. 33Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid. 34A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod â Iesu, ac wedi ei weld, yn erfyn arno symud o'u gororau.

Dewis Presennol:

Mathew 8: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd