Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8

8
Dyn yn dioddef o’r gwahanglwyf
(Marc 1:40-45; Luc 5:12-16)
1Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn pan ddaeth i lawr o ben y mynydd. 2Yna dyma ddyn oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod ato a mynd ar ei liniau o’i flaen. “Arglwydd,” meddai, “gelli di fy ngwneud i’n iach os wyt ti eisiau.”
3Dyma Iesu’n estyn ei law a chyffwrdd y dyn. “Dyna dw i eisiau,” meddai, “bydd lân.” A’r eiliad honno cafodd y dyn ei wneud yn holliach!
4A dyma Iesu’n dweud wrtho, “Gwna’n siŵr dy fod ti’n dweud wrth neb beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i’r offeiriad, a chyflwyno’r offrwm ddwedodd Moses y dylet ti ei gyflwyno, yn dystiolaeth i’r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”#8:4 Dos i ddangos iacháu: Os oedd rhywun yn cael ei iacháu o glefyd heintus ar y croen roedd rhaid i offeiriad ei archwilio, a chyhoeddi fod y person yn iach. Wedyn roedd rhaid cyflwyno offrwm o ddau oen gwryw ac un oen benyw a blawd wedi’i gymysgu gydag olew olewydd. #Lefiticus 14:1-32
Ffydd y Swyddog Milwrol Rhufeinig
(Luc 7:1-10; Ioan 4:43-54)
5Wrth i Iesu fynd i mewn i Capernaum, daeth swyddog milwrol Rhufeinig ato yn pledio arno i’w helpu. 6“Arglwydd,” meddai, “mae ngwas i gartref, yn gorwedd yn ei wely wedi’i barlysu. Mae’n dioddef yn ofnadwy.”
7Atebodd Iesu, “Dof i’w iacháu.”
8Ond meddai’r swyddog wrtho, “Arglwydd, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i. Does ond rhaid i ti ddweud a bydd fy ngwas yn cael ei iacháu. 9Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr odanaf fi. Dw i’n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae’n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae’n dod. Dw i’n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae’n ei wneud.”
10Roedd Iesu wedi’i syfrdanu pan glywodd beth ddwedodd y dyn. Meddai wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Wir i chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna! 11Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o’r byd ac yn eistedd i lawr i wledda gydag Abraham, Isaac a Jacob pan ddaw’r Un nefol i deyrnasu. 12Ond bydd ‘dinasyddion y deyrnas’ yn cael eu taflu allan i’r tywyllwch lle bydd pobl yn wylo’n chwerw ac mewn artaith.”
13Yna dwedodd Iesu wrth y swyddog milwrol, “Dos! Cei di beth wnest ti gredu allai ddigwydd.” A dyna’n union pryd cafodd y gwas ei iacháu.
Iesu’n iacháu llawer
(Marc 1:29-34; Luc 4:38-41)
14Dyma Iesu’n mynd i gartref Pedr. Yno gwelodd fam-yng-nghyfraith Pedr yn ei gwely gyda gwres uchel. 15Cyffyrddodd Iesu ei llaw a diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi’n codi o’i gwely a gwneud pryd o fwyd iddo.
16Pan oedd hi’n dechrau nosi dyma bobl yn dod â llawer iawn o rai oedd yng ngafael cythreuliaid at Iesu. Doedd ond rhaid iddo ddweud gair i fwrw allan yr ysbrydion drwg a iacháu pawb oedd yn sâl. 17Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy’r proffwyd Eseia yn dod yn wir:
“Cymerodd ein gwendidau arno’i hun,
a chario ein hafiechydon i ffwrdd.” #Eseia 53:4
Y gost o ddilyn Iesu
(Luc 9:57-62)
18Pan welodd Iesu’r dyrfa o’i gwmpas, penderfynodd fod rhaid croesi i ochr draw’r llyn. 19Yna dyma un o’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dod ato a dweud, “Athro, dw i’n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di’n mynd.”
20Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
21Dyma un arall o’i ddilynwyr yn dweud wrtho, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
22Ond ateb Iesu oedd, “Dilyn di fi. Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw.”
Iesu’n tawelu storm
(Marc 4:35-41; Luc 8:22-25)
23Felly i ffwrdd â Iesu i’r cwch, a’i ddisgyblion ar ei ôl. 24Yn gwbl ddirybudd, cododd storm ofnadwy ar y llyn, nes bod y cwch yn cael ei gladdu gan y tonnau. Ond cysgodd Iesu’n drwm drwy’r cwbl! 25Dyma’r disgyblion yn mynd ato mewn panig a’i ddeffro, “Achub ni Arglwydd!” medden nhw, “Dŷn ni’n mynd i foddi!”
26“Pam dych chi mor ofnus?” meddai Iesu, “Ble mae’ch ffydd chi?” Yna cododd ar ei draed a cheryddu’r gwynt a’r tonnau, ac yn sydyn roedd pobman yn hollol dawel.
27Roedd y disgyblion yn gwbl syfrdan. “Beth wnawn ni o’r dyn yma?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Iacháu dau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid
(Marc 5:1-20; Luc 8:26-39)
28Ar ôl iddo groesi’r llyn i ardal y Gadareniaid,#8:28 Gadareniaid: Neu, Gergeseniaid yn rhai llawysgrifau. Geraseniaid yn eraill. dyma ddau ddyn oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i’w gyfarfod o gyfeiriad y fynwent. Roedd y dynion yma mor beryglus, doedd hi ddim yn saff i bobl fynd heibio’r ffordd honno. 29Dyma nhw’n gweiddi’n uchel, “Gad di lonydd i ni Fab Duw! Wyt ti wedi dod yma i’n poenydio ni cyn i’r amser i hynny digwydd ddod?”
30Roedd cenfaint fawr o foch yn pori draw oddi wrthyn nhw, 31a dyma’r cythreuliaid yn pledio arno, “Gad i ni fynd i mewn i’r genfaint o foch acw os wyt ti’n mynd i’n bwrw ni allan.”
32“Ewch!” meddai Iesu. Felly allan â nhw ac i mewn i’r moch. A’r peth nesa, dyma’r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth a boddi yn y llyn. 33Dyma’r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd i’r dre i adrodd y stori, a dweud am bopeth oedd wedi digwydd i’r dynion oedd wedi bod yng ngafael cythreuliaid. 34Yna dyma pawb yn dod allan o’r dre i gyfarfod Iesu. Ar ôl dod o hyd iddo, dyma nhw’n pwyso arno i adael eu hardal.

Dewis Presennol:

Mathew 8: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd