Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 6:8-13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseia 6:8-13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i’n mynd i’w anfon? Pwy sy’n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi’n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’ Gwna nhw’n ystyfnig, tro eu clustiau’n fyddar, a chau eu llygaid – rhag iddyn nhw weld â’u llygaid, clywed â’u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.” Dyma fi’n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe’n ateb: “Nes bydd trefi wedi’u dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw: tai heb bobl ynddyn nhw, a’r tir wedi’i ddifetha a’i adael yn ddiffaith.” Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru’r boblogaeth i ffwrdd – a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy’r wlad. Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl, fydd honno eto’n cael ei llosgi? “Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi’i thorri i lawr, a dim ond boncyff ar ôl. Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd, fel had sanctaidd.”

Eseia 6:8-13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, “Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?” Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.” Dywedodd, “Dos, dywed wrth y bobl hyn, ‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’ Brasâ galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall â'u calon, a dychwelyd i'w hiacháu.” Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd, “Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio heb drigiannydd, a'r tai heb bobl, a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd; nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad. Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi, fe'i llosgir drachefn; fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith, fel boncyff o'r uchelfa. Had sanctaidd yw ei boncyff.”

Eseia 6:8-13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi. Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch. Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu. Yna y dywedais, Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd, Ac i’r ARGLWYDD bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad. Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.