Eseia 6:8-13
Eseia 6:8-13 BNET
Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i’n mynd i’w anfon? Pwy sy’n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi’n dweud, “Dyma fi; anfon fi.” Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma: ‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall; edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’ Gwna nhw’n ystyfnig, tro eu clustiau’n fyddar, a chau eu llygaid – rhag iddyn nhw weld â’u llygaid, clywed â’u clustiau, deall go iawn, a throi a chael eu hiacháu.” Dyma fi’n gofyn, “Am faint o amser, fy Arglwydd?” A dyma fe’n ateb: “Nes bydd trefi wedi’u dinistrio a neb yn byw ynddyn nhw: tai heb bobl ynddyn nhw, a’r tir wedi’i ddifetha a’i adael yn ddiffaith.” Bydd yr ARGLWYDD yn gyrru’r boblogaeth i ffwrdd – a bydd llawer iawn o ardaloedd gwag drwy’r wlad. Ond os bydd un rhan o ddeg ar ôl, fydd honno eto’n cael ei llosgi? “Bydd fel coeden anferth neu dderwen wedi’i thorri i lawr, a dim ond boncyff ar ôl. Ond bydd y boncyff yn ddechrau newydd, fel had sanctaidd.”




