Eseia 6:8-13
Eseia 6:8-13 BCND
Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud, “Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?” Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.” Dywedodd, “Dos, dywed wrth y bobl hyn, ‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall; edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’ Brasâ galon y bobl, trymha eu clustiau, cau eu llygaid; rhag iddynt weld â'u llygaid, clywed â'u clustiau, deall â'u calon, a dychwelyd i'w hiacháu.” Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd, “Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithio heb drigiannydd, a'r tai heb bobl, a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd; nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell, a difrod mawr yng nghanol y wlad. Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi, fe'i llosgir drachefn; fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith, fel boncyff o'r uchelfa. Had sanctaidd yw ei boncyff.”




